Pori Categori
Select Categori

7 items in 1 page
PDF

Ceir cefnogaeth gref i’r cysyniad o ecosystemau rhewlifol drwy fesuriadau o gyfraddau sylweddol o gylchu carbon a maetholynnau ar rewlifoedd cyfoes. Serch hynny, ni roddwyd llawer o ystyriaeth i bwysigrwydd posibl y cyfraniadau hyn yn ystod cyfnodau cynt o rewlifiant. Felly modelwyd cynefinoedd a llifoedd carbon ar rai o baleorewlifoedd gogledd Cymru o’r Dryas diweddaraf. Amcangyfrifwyd amsugniad net o 30-180 kg C fesul CO2 y flwyddyn ac allyriad methan rhwng 265-1591 g C fel CH4. Mae hyn yn pwysleisio’r posibilrwydd o gylchu carbon ar rewlifoedd diweddaraf Cymru ond gellir ymestyn ar hyn drwy wella ein sail data cyfoes, archwilio biofarcwyr o fewn gwaddodion a mewngorffori’r data i fodelau llif thermomecanig o ddeinameg rhewlifoedd y Defensaidd.

Arwyn Edwards, Sara M. Rassner, Tristram D. L. Irvine-Fynn, Hefin Wyn Williams a Gareth Wyn Griffith, 'Darogan cyfraniadau rhewlifoedd olaf Eryri i gylchredoedd carbon Cyfnod y Dryas Diweddaraf', Gwerddon, 12, Rhagfyr 2012, 53-78

Cyhoeddwyd yr erthygol hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Casglwyd 701 o ddarnau o sbwriel fesul cilomedr o heol fach, wledig yng Ngwynedd. Lleiafswm cost ‘gudd’ flynyddol y sbwriel – sef y gost dybiedig o gasglu’r sbwriel na chesglir ar hyn o bryd – yw £11.81 y cilomedr. Amcangyfrif cost flynyddol sbwriel ar heolydd bach Cymru yw £230,000. Gellid cael gwared ar ganran helaeth o’r sbwriel dan sylw wrth gyflwyno system ernes i boteli a chaniau. Roedd 13 o gwmnïau unigol yn gyfrifol am gynhyrchu dros chwarter o’r sbwriel. Gallai Llywodraeth Cymru drefnu ad-daliad gan y cwmnïau hyn o £58,000 y flwyddyn er mwyn digolledu costau cudd y sbwriel sy’n gysylltiedig â nhw.

Gareth Clubb, 'Sbwriel ar heolydd bach Cymru: Astudiaeth achos Penisa'r Waun', Gwerddon, 12, Rhagfyr 2012, 10-23.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae’r papur hwn yn cyflwyno adolygiad o’r ymchwil geomorffeg afonol a wnaed ar afonydd Cymru.

Yn ogystal â thrafod tueddiadau a welir yn yr astudiaethau hyn, yn gyntaf drwy ganolbwyntio ar waith daearegwyr ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a thrwy symud ymlaen drwy ddatblygiad geomorffeg yn faes ymchwil i’r cyfnod rhyngddisgyblaethol presennol, trafodir y meysydd sydd wedi cael sylw arbennig ar afonydd Cymru. Mae’r rhain yn cynnwys esblygiad mega-geomorffeg Cymru, astudiaethau proses arloesol, esblygiad systemau afonol llifwaddodol i newidiadau hinsoddol tymor byr a thymor hir, ac ymateb afonydd Cymru i weithgarwch anthropogenig. Mae’r amrywiaeth hon o astudiaethau yn ganlyniad natur systemau afonol Cymru. Yn gyntaf, maent yn dangos hanes esblygol, gan gynnwys cyfnodau rhewlifol ac adnewyddiad. Yn ail, mae prosesau cyfoes wedi creu amrywiaeth eang o fathau o sianeli, gan gynnwys sianeli creigwely, afonydd gwely graean, sianeli troellog, plethog, sefydlog ac ansefydlog. Yn drydydd, mae diddordeb academaidd a phryderon pragmatig ynghylch rheoli afonydd wedi arwain at gorff mawr o waith sydd, mewn rhai achosion, yn golygu bod nifer o rannau o afonydd Cymru yn cael eu hystyried yn archdeipiau rhyngwladol.

Trafodir bylchau yn ein gwybodaeth hefyd. Mae’r rhain yn cynnwys yr angen i gynyddu ein dealltwriaeth o brosesau cyfoes a pharhau â’r gwaith a wnaed ar ymateb ac esblygiad llifwaddodol drwy ddefnyddio’r technegau diweddaraf i gadw cronoleg datblygiad systemau afonol. Mae angen ehangu cwmpas gofodol ein hastudiaethau i ardaloedd nad ydynt wedi cael cymaint o sylw yn y gorffennol, megis sianeli llifwaddodol creigwely a chreigwely cymysg y gogledd-orllewin a chymoedd de Cymru.

Hywel Meilyr Griffiths, 'Geomorffeg afonol Cymru: Heddiw, ddoe ac yfory', Gwerddon, 3, Mai 2008, 36-70.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Enillydd Gwobr Gwerddon am erthygl orau 2014.

Mae cloddio am lo a phrosesau cysylltiedig wedi effeithio ar amgylchedd naturiol rhan orllewinol maes glo de Cymru wrth i ddŵr llygredig sy’n arllwys o hen lofeydd gyrraedd y system hydrolegol leol. Mae gwaddol y gwaith cloddio yn yr ardal hon yn cynnwys ffurfiant dŵr llygredig, a lifa o sawl hen lofa, yn ogystal â ffurfiant mwynau haearn. Yn yr erthygl hon trafodir y prosesau tanddaearol sydd ar waith yn y glofeydd sy’n arwain at ffurfiant dŵr llygredig a mwynau haearn. Ymdrinnir yn benodol â phedair o’r hen lofeydd gan edrych ar y gwahanol systemau trin dŵr a ddefnyddir ar y safleoedd hynny. Mae’r systemau yn trin y dŵr llygredig drwy gael gwared â’r haearn fel bod y crynodiadau terfynol yn is na’r trothwy a bennwyd gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Nia Blackwell, William. T. Perkins ac Arwyn Edwards, 'Etifeddiaeth cloddio am lo ym maes glo de Cymru: llygredd dŵr ac opsiynau i’w leihau', Gwerddon, 18, Medi 2014, 55-76.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae astudiaethau teffrocronoleg yn rhanbarth Gogledd yr Iwerydd ar y cyfan yn canolbwyntio ar gynhyrchion echdoriadau mawr e.e. Askja 1875, Hekla 1104 ac Öræfajökull 1362. Serch hynny, mae echdoriadau llai o faint o Wlad yr Iâ yn dechrau dod yn fwy pwysig o ran sicrhau dyddiadau mewn meysydd eraill ac mae’n bosibl eu bod yn berthnasol dros bellterau ehangach e.e. echdoriad Eyjafjallajökull yn 2010. Mae teffra Grákolla, sy’n tarddu o losgfynydd Torfajökull yn un enghraifft. Os defnyddir data’r prif elfennau yn unig, mae’r teffra yn dangos ôl bys cemegol yr un fath a theffra Landnám, sy’n tarddu o’r un system. Ond o ddefnyddio data’r elfennau hybrin, mae’n bosibl gwahaniaethu rhwng yr haenau hyn er bod ychydig o orgyffwrdd yn parhau yn y data. Wrth ddefnyddio’r wybodaeth hon i ailystyried astudiaeth flaenorol o fudo ac anheddu yn Ynysoedd Ffaröe, nodir bod perygl camddyddio digwyddiadau os yw’r broses o adnabod teffra yn dibynnu ar ddata’r prif elfennau yn unig. Mae hyd at 600 mlynedd rhwng y ddau deffra, ac er bod hwn yn gyfnod byr iawn o ran digwyddiadau daearegol, y mae’n gyfnod hir o ran camddyddio digwyddiadau dynol.

Rhian Meara, 'Pwysigrwydd llofnod cemegol lludw folcanig o Wlad yr Iâ: Teffra “Grákolla” o losgfynydd Torfajökull', Gwerddon, 13, Chwefror 2013, 66-77.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Dros y blynyddoedd diwethaf, rhoddwyd tipyn o sylw i brofiadau carfannau lleiafrifol sy’n cael eu gwthio i’r ymylon mewn ardaloedd gwledig. Serch hynny, prin yw’r sylw a roddir i garfannau crefyddol mewn rhanbarthau gwledig. Y mae’r prinder sylw hwn yn syndod o ystyried y sylw a roddir i grefydd mewn materion yn ymwneud ag amlddiwylliannedd a dinasyddiaeth gynhwysol. Trafoda’r erthygl hon brofiadau un garfan grefyddol leiafrifol benodol, sef y Mwslemiaid, yng ngorllewin Cymru wledig. Canolbwyntia’r erthygl ar brofiadau o absenoldeb o’r tirlun (h.y. y dirwedd ffisegol a’r delweddau a gwerthoedd ehangach sy’n cyfleu syniadau am leoedd), sy’n medru creu anawsterau o ran hwyluso ymdeimlad o gymuned. Yn ogystal, edrychir ar y modd yr ystyria Mwslemiaid lleol y rhanbarth fel un moesol a Christnogol. Awgryma’r papur bod y profiadau hyn yn troesesgyn syniadau o ‘eithrio’ a ‘pherthyn’, ac yn tystio i berthynas gymhleth rhwng Mwslemiaid lleol a’r rhanbarth gwledig hwn.

Rhys Dafydd Jones, 'Mwslemiaid yn y Gymru wledig: datgysylltiad, ffydd a pherthyn', Gwerddon, 19, Ebril 2015, 9-27.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae’r sector ynni adnewyddadwy yn prysur dyfu wrth i wledydd anelu at gyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon a sefydlu strategaeth fwy cynaliadwy o greu ynni. Er hyn, dadleuir nad yw datblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yn llwyddo i gyfrannu tuag at gynaliadwyedd cymunedol a’r economi lleol. Yn ôl ymchwil ddiweddar, mae prosiectau ynni cymunedol – prosiectau ynni adnewyddadwy sydd wedi eu perchenogi’n rhannol neu’n llawn gan gymuned ddaearyddol benodol – yn cael eu gweld fel ffordd o gynhyrchu ynni mewn modd mwy derbyniol, teg a chynaliadwy. Mae’r erthygl hon yn adolygu’r llenyddiaeth bresennol sy’n trafod manteision y sector ynni cymunedol a’r hyn sy’n llesteirio datblygiadau yn y maes hwn.

Sioned Haf, 'Ynni adnewyddadwy cymunedol: adolygiad o’r sefyllfa bresennol a phosibiliadau’r sector unigryw hwn', Gwerddon, 20, Hydref 2015, 10-29.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
7 items in 1 page