Datblygwyd yr adnoddau yma fel rhan o brosiect sydd wedi cymryd y camau cychwynnol tuag at ddatblygu llwybr cyfrwng Cymraeg trwy raglen israddedig achrededig proffesiynol maes Cynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r prosiect wedi galluogi i’r ysgol i greu adnoddau Dysgu ac Addysgu ar gyfer elfen o fodiwlau craidd ym mhob blwyddyn o’r rhaglen tair blynedd, sy’n cynnwys:
Blwyddyn 1: Cyflwyniad i Cynllunio Gofodol (CP0110) - 20 credyd
Blwyddyn 2: Polisi a Chyfraith Cynllunio (CP0236) - 20 credyd
Blwyddyn 3: Ymarfer a Theori Cynllunio (CP0312) - 20 credyd
Mae'r deunydd bellach yn agored ac ar gael i ddarlithwyr a myfyrwyr prifysgolion ar draws Cymru allu eu lawrlwytho a’u defnyddio fel y mynnant yn eu cyrsiau / deunydd dysgu ac addysgu.