Y Gwyddonydd, Cyfrol 33 – Rhifyn Hanner Canmlwyddiant, 1963-2013
Ymddangosodd Y Gwyddonydd, cyfnodolyn gwyddonol Cymraeg, am y tro cyntaf yn 1963, ac fe'i cyhoeddwyd yn gyson hyd at 1996.
I ddathlu’r achlysur fe wnaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ariannu a chydlynu rhifyn dathlu arbennig, gan hefyd redeg cystadleuaeth gwyddonydd ifanc. Lansiwyd y rhifyn arbennig yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych, 2013. Cliciwch yma i weld anerchiad Dr Hefin Jones, Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn y lansiad.
Golygydd y rhifyn oedd yr Athro Glyn O. Phillips, a fu hefyd yn olygydd Y Gwyddonydd rhwng 1963 a 1993. Mae'r rhifyn yn cynnwys cyfraniadau byrion ond amrywiol: pytiau ymchwil, erthyglau am hanes y gwyddorau yng Nghymru, prosiectau sy'n ymwneud â'r gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg heddiw, adolygiadau a mwy.