Mae'r casgliad hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido, E-gyhoeddi a Chorpws Electronig. Nod y prosiect oedd creu e-lyfrau newydd o destunau Cymraeg sy'n allweddol ar gyfer ysgolheictod cyfrwng Cymraeg ond sydd allan o brint.
Araith o'r 1960au gan yr athronydd Cymreig J. R. Jones, am yr hollt rhwng y rhai sy'n siarad Cymraeg a'r di-Gymraeg yng Nghymru a sut mae cau'r bwlch heb danseilio'r iaith Gymraeg ei hun.
Cyhoeddwyd hefyd fel rhan o gyfrol Gwaedd yng Nghymru, J. R. Jones.
Gellir lawrlwytho'r e-lyfr ar ffurf PDF, ePub neu Mobi (gweler Cyfryngau Cysylltiedig uchod).
Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer darllen e-lyfr ar amrywiol declynnau yma.
Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido, E-gyhoeddi a Chorpws Electronig. Nod y prosiect yw creu e-lyfrau newydd o destunau Cymraeg sy'n allweddol ar gyfer ysgolheictod cyfrwng Cymraeg ond sydd allan o brint. Gallwch weld yr holl e-lyfrau yn y categori DEChE (Prosiect Digido).
Yma y mae J. R. Jones yn ymateb i argyfyngau dynol y ceir sôn amdanynt yn y Beibl ac i’r argyfyngau dynol yn ein hoes ni a gynhyrfodd feddylwyr tebyg i Wittgenstein, Simone Weil a Tillich.
O dan Cyfryngau Cysylltiedig ceir hefyd ffeil sain o J. R. Jones ei hun yn areithio. Teitl yr araith yw "I Ti y Perthyn ei Ollwng", sef Rhan Tri: 3 o Ac Onide.
Darlith yn trafod amodau moesol gweithredu anghyfreithlon, neu anufudd-dod dinesig, dros yr iaith Gymraeg. Dyma Ddarlith Goffa J. R. Jones, 1993.
Dyfyniadau o areithiau ac erthyglau gan E. T. John, Aelod Seneddol dwyrain Sir Ddinbych yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cenedlaetholwr Cymreig a heddychwr. Roedd yn aelod o'r Blaid Ryddfrydol hyd 1918, pan ymunodd â'r Blaid Lafur. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1918.
Casgliad o bedair araith gan J. R. Jones, Siôn Daniel, Emyr Llywelyn ac Alwyn D. Rees a draddodwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan ym 1966 yn trafod ymgyrchu dros y Gymraeg a lle gweithredu anghyfreithlon yn dilyn ethol aelod seneddol cyntaf Plaid Cymru, Gwynfor Evans.
Casgliad o ysgrifau ar athroniaeth crefydd yn ymateb i ddisgwrs y cyfnod ar ystyr bodolaeth ac argyfwng cymdeithas sy'n ymwrthod â chrefydd gristnogol a bodolaeth Duw. Trafodir natur yr iaith a geir mewn credoau crefyddol a'n dealltwriaeth ohoni a thrafodir theorïau ynglŷn â thragwyddoldeb.
Cyflwyniad i syniadau y cymdeithasegydd Emile Durkheim yn ei eiriau ei hun ac wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Credai Durkheim y gellid creu gwyddor i astudio cymdeithas ac ef oedd un o brif sylfaenwyr cymdeithaseg fodern. Yn ôl syniadau Durkheim rheolid unigolyn a'i weithredoedd gan ei gymdeithas. Astudiodd swyddogaeth crefydd o fewn cymdeithas yn ogystal.
Roedd Gerallt Gymro yn sylwebydd craff ac yn awdur dysgedig a thoreithiog a ysgrifennodd ar amrywiaeth o bynciau. Dyma gasgliad difyr o sylwadau ganddo am ei gyfoeswyr sy'n darlunio'r cyfnod ac yn dweud llawer am Gerallt ei hun yn ogystal.
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg gan W. J. Rees. Mae'r casgliad hwn yn edrych ar syniadau’r athronydd chwyldroadol ar gymdeithas a chymdeithaseg. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.
Detholiad o waith Karl Marx yn ei eiriau ei hun wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Yma ceir disgrifiadau gan Marx ar wahanol fathau o gymdeithas, e.e. cymdeithasau cyntefig, ffiwdal, cyfalafol. Dyfynnir o gyhoeddiadau megis Y Teulu Sanctaidd, Yr Ideoleg Almaenaidd a Maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol.