Pori Categori
Select Categori

15 items in 2 pages
PDF

Yma y mae J. R. Jones yn ymateb i argyfyngau dynol y ceir sôn amdanynt yn y Beibl ac i’r argyfyngau dynol yn ein hoes ni a gynhyrfodd feddylwyr tebyg i Wittgenstein, Simone Weil a Tillich.

O dan Cyfryngau Cysylltiedig ceir hefyd ffeil sain o J. R. Jones ei hun yn areithio. Teitl yr araith yw "I Ti y Perthyn ei Ollwng", sef Rhan Tri: 3 o Ac Onide.

Gellir lawrlwytho'r e-lyfr ar ffurf PDF, ePub neu Mobi (gweler Cyfryngau Cysylltiedig uchod).

  • I ddarllen yr e-lyfr ar sgrin cyfrifiadur a/neu i argraffu rhannau ohono, lawrlwythwch y ffeil PDF.
  • I ddarllen yr e-lyfr ar iBooks, Nook, Kobi a'r rhan fwyaf o ddyfeisiau e-ddarllen eraill, lawrlwythwch y ffeil ePub.
  • I ddarllen yr e-lyfr ar Kindlelawrlwythwch y ffeil Mobi.

Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer darllen e-lyfr ar amrywiol declynnau yma.

Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido, E-gyhoeddi a Chorpws Electronig. Nod y prosiect yw creu e-lyfrau newydd o destunau Cymraeg sy'n allweddol ar gyfer ysgolheictod cyfrwng Cymraeg ond sydd allan o brint. Gallwch weld yr holl e-lyfrau yn y categori DEChE (Prosiect Digido).

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Casgliad o ysgrifau ar athroniaeth crefydd yn ymateb i ddisgwrs y cyfnod ar ystyr bodolaeth ac argyfwng cymdeithas sy'n ymwrthod â chrefydd gristnogol a bodolaeth Duw. Trafodir natur yr iaith a geir mewn credoau crefyddol a'n dealltwriaeth ohoni a thrafodir theorïau ynglŷn â thragwyddoldeb.

Gellir lawrlwytho'r e-lyfr ar ffurf PDF, ePub neu Mobi (gweler Cyfryngau Cysylltiedig uchod).

  • I ddarllen yr e-lyfr ar sgrin cyfrifiadur a/neu i argraffu rhannau ohono, lawrlwythwch y ffeil PDF.
  • I ddarllen yr e-lyfr ar iBooks, Nook, Kobi a'r rhan fwyaf o ddyfeisiau e-ddarllen eraill, lawrlwythwch y ffeil ePub.
  • I ddarllen yr e-lyfr ar Kindlelawrlwythwch y ffeil Mobi.

Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer darllen e-lyfr ar amrywiol declynnau yma.

Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido, E-gyhoeddi a Chorpws Electronig. Nod y prosiect yw creu e-lyfrau newydd o destunau Cymraeg sy'n allweddol ar gyfer ysgolheictod cyfrwng Cymraeg ond sydd allan o brint. Gallwch weld yr holl e-lyfrau yn y categori DEChE (Prosiect Digido).

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Trafodaeth gan yr athronydd Cymreig, J. R. Jones am berthynas dirywiad addoli Cristnogol yng Nghymru â chrebachiad hunaniaeth y Cymry a'r iaith Gymraeg.

Gellir lawrlwytho'r e-lyfr ar ffurf PDF, ePub neu Mobi (gweler Cyfryngau Cysylltiedig uchod).

  • I ddarllen yr e-lyfr ar sgrin cyfrifiadur a/neu i argraffu rhannau ohono, lawrlwythwch y ffeil PDF.
  • I ddarllen yr e-lyfr ar iBooks, Nook, Kobi a'r rhan fwyaf o ddyfeisiau e-ddarllen eraill, lawrlwythwch y ffeil ePub.
  • I ddarllen yr e-lyfr ar Kindlelawrlwythwch y ffeil Mobi.

Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer darllen e-lyfr ar amrywiol declynnau yma.

Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido, E-gyhoeddi a Chorpws Electronig. Nod y prosiect yw creu e-lyfrau newydd o destunau Cymraeg sy'n allweddol ar gyfer ysgolheictod cyfrwng Cymraeg ond sydd allan o brint. Gallwch weld yr holl e-lyfrau yn y categori DEChE (Prosiect Digido).

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Yn yr erthygl hon, dadleuir sut y dylanwadodd credoau Morgan John Rhys (1760–1804) ynghylch yr Ailddyfodiad a’r Milflwyddiant ar ei ymwneud ef â’r ymgyrch yn erbyn caethwasiaeth, y Chwyldro Ffrengig ac America. Dangosaf sut yr oedd Milflwyddiaeth yn rym a luniai fydolwg Morgan John Rhys ac a lywiai ei weithredoedd a’i ymgyrchoedd cymdeithasol. Yn ogystal â hyn, dangosir sut y bu i William Williams, Pantycelyn (1717–91), ragflaenu Morgan John Rhys yn y cyd-destun hwn. Dadleuir, wrth astudio Williams a Rhys, na ellir cyfrif Efengyliaeth a’r Oleuedigaeth yn elynion deallusol i’w gilydd, ac mai Milflwyddiaeth oedd un o’r grymoedd pwysicaf ym mywydau’r ddau ddyn hyn a chwaraeodd ran dylanwadol iawn ym mywyd Cymru’r ddeunawfed ganrif.

Cynan Llwyd, ‘“Byd newydd ymha un y preswylia cyfiawnder”: Gweledigaeth Morgan John Rhys (1760–1804)’, Gwerddon, 23, Mawrth 2017, 85-98.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
Cyflwyniad

Mae’r adnoddau hyn yn deillio o gynhadledd undydd a gynhaliwyd ym mis Medi 2014 ar y pwnc ‘Crefydd yn y Byd Cyfoes’, dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Y nod oedd rhoi cyfle i fyfyrwyr israddedig a disgyblion chweched dosbarth ddod ynghyd i drafod materion crefyddol sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol.

Ceir yma rai o’r cyflwyniadau a gafwyd ar y testunau canlynol:

  1. Seciwlariaeth
  2. Ffwndamentaliaeth
  3. Dyfodiad yr Apocalyps
  4. Freud

Cliciwch ar 'Cyfryngau Cysylltiedig' uchod i lawrlwytho cyflwyniadau 2-4.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Yr astudiaeth Williams Pantycelyn (1927) gan Saunders Lewis oedd un o gyfraniadau mwyaf beiddgar at feirniadaeth lenyddol Gymraeg a welwyd yn yr ugeinfed ganrif. Mewn deg pennod ddisglair a chofiadwy, dehonglodd Lewis athrylith yr emynydd mewn dull cwbl annisgwyl ac unigryw. Y ddwy allwedd a ddefnyddiodd i ddatgloi cynnyrch y bardd oedd cyfriniaeth Gatholig yr Oesoedd Canol a gwyddor gyfoes seicoleg, yn cynnwys gwaith Freud a Jung. Enynnodd y gyfrol ymateb cryf, gyda rhai’n gwrthod y dehongliad ond eraill yn ei dderbyn. Yn yr ysgrif hon, disgrifir ymateb rhai o’r beirniaid cynnar: T. Gwynn Jones a oedd, at ei gilydd, yn croesawu’r dehongliad, E. Keri Evans a oedd yn ei wrthod a Moelwyn Hughes a ymatebodd yn chwyrn yn ei erbyn. Oherwydd grym rhesymu Lewis a dieithriwch ei deithi beirniadol, llwyddwyd i ddarbwyllo llawer mai hwn, chwedl Kate Roberts, oedd ‘y Williams iawn’. Bu’n rhaid aros tan y 1960au i weld disodli’r farn hon yn derfynol. Erys yr ymatebion yn dyst i feiddgarwch a disgleirdeb Pantycelyn Saunders Lewis.

D. Densil Morgan, 'Yr Ymateb Cynnar i Astudiaeth Saunders Lewis, Williams Pantycelyn', Gwerddon, 24, Awst 2017, 51-65.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Tymhestlog fu hanes perthynas yr Eglwys Gatholig Rufeinig a’r Iddewon, ac yn yr erthygl hon archwilir y modd yr effeithiodd deddfau imperialaidd cynnar Rhufain ar y berthynas honno. Gan gymryd detholiad o ddeddfau, ystyrir y modd y cawsant effaith ar safle cymdeithasol yr Iddew mewn byd a oedd yn troi’n fwyfwy Cristnogol. Eir ymlaen i drafod y modd yr ailgyflwynwyd ambell ddeddf wrth-Iddewig yn ystod yr Oesoedd Canol yn ogystal ag yn ystod y digwyddiad erchyll a oedd yn dyngedfennol i’r Iddew a’r Cristion, yr Holocost. Daw’r erthygl i ben gan bwyso a mesur gwir arwyddocâd y deddfau imperialaidd cynnar a chan gwestiynu perthynas yr Iddew â’r Cristion yn yr unfed ganrif ar hugain.

Gareth Evans-Jones, ‘Y Seren yn y Groes: effaith deddfau imperialaidd cynnar Rhufain ar y berthynas rhwng yr Eglwys a’r Iddewon’, Gwerddon, 23, Mawrth 2017, 58-84.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Detholiad o gant o emynau William Williams Pantycelyn ynghyd â dwy farwnad, dyfyniadau o gerddi hirach a darnau o ryddiaith. Ceir yma hefyd ragarweiniad i fywyd Pantycelyn, y diwygiad Methodistaidd a rôl oddi mewn iddo. Trafodir arbenigedd ei waith yn gryno yn ogystal.

Gellir lawrlwytho'r e-lyfr ar ffurf PDF, ePub neu Mobi (gweler Cyfryngau Cysylltiedig uchod).

  • I ddarllen yr e-lyfr ar sgrin cyfrifiadur a/neu i argraffu rhannau ohono, lawrlwythwch y ffeil PDF.
  • I ddarllen yr e-lyfr ar iBooks, Nook, Kobi a'r rhan fwyaf o ddyfeisiau e-ddarllen eraill, lawrlwythwch y ffeil ePub.
  • I ddarllen yr e-lyfr ar Kindlelawrlwythwch y ffeil Mobi.

Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer darllen e-lyfr ar amrywiol declynnau yma.

Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido, E-gyhoeddi a Chorpws Electronig. Nod y prosiect yw creu e-lyfrau newydd o destunau Cymraeg sy'n allweddol ar gyfer ysgolheictod cyfrwng Cymraeg ond sydd allan o brint. Gallwch weld yr holl e-lyfrau yn y categori DEChE (Prosiect Digido).

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar dri thraethawd yn ymdrin â Samuel Taylor Coleridge ac Immanuel Kant a gyhoeddwyd gan y diwinydd a’r dysgedydd, Lewis Edwards, yn Y Traethodydd rhwng 1846 a 1853. Ystyrir Edwards yma yn gynrychiolydd arweinwyr crefyddol Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac archwilir ei waith am dystiolaeth o’r agwedd tuag at ddatblygiadau athronyddol y cyfnod a allai gynnig esboniad am ei fethiant i amddiffyn yr iaith a’r diwylliant Cymreig yn wyneb ymlediad y Saesneg.

Y ddadl a roddir gerbron yma yw bod ymlyniad Edwards i resymoliaeth ddyfaliadol, sy’n sail i ddiwinyddiaeth Galfinaidd y cyfnod, yn ei atal rhag ymateb yn uniongyrchol i sialens ddeallusol y cyfnod modern. Yn y tri thraethawd hyn, sy’n cyflwyno meddwl Kant fel y’i mynegir yn ei Kritik cyntaf, ynghyd â diwinyddiaeth athronyddol Coleridge fel a geir yn Aids to Reflection, cawn dystiolaeth glir o amharodrwydd Edwards i ymgymryd ag unrhyw sialens i’r athroniaeth Galfinaidd. Y mae’r darlun a gyflwyna o feddwl y ddau awdur yn ddiffygiol ac yn gamarweiniol. Rhan bwysig iawn o Kritik Kant ac Aids Coleridge oedd eu beirniadaeth ysgubol o resymoliaeth ddyfaliadol. Dewisodd Edwards anwybyddu hyn yn gyfan gwbl er mwyn cynnal ei gred yng ngallu dyn i ymestyn at y gwirionedd trwy gyfrwng sythwelediad deallusol, heb gyfeirio at brofiad empeiraidd.

Dadleuir mai’r dallineb ewyllysgar hwn tuag at y meddwl modern oedd un o’r prif ffactorau a oedd yn symbylu’r brad y cyhuddir Edwards a’i gyfoedion ohono. Awgrymir hefyd bod y brad hwnnw’n tanseilio nid yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn unig, ond y grefydd Galfinaidd yr oedd Edwards mor awyddus i’w hamddiffyn. Wrth ymwrthod â sialens y meddwl modern, gadawodd Edwards ei ddisgyblion heb gyfrwng i addasu’r athrawiaeth draddodiadol i ofynion synwyrusrwydd cyfnewidiol. A chanlyniad hynny yn y pendraw oedd ymddieithrwch oddi wrth y gorffennol Ymneilltuol, sydd yn parhau i effeithio arnom heddiw.

Ioan Williams, 'Lewis Edwards a Brad y Dysgedigion', Gwerddon, 24, Awst 2017, 83-101.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae’r erthygl hon yn defnyddio theatr fel modd i fewnsyllu ar gyfnewidfa ddiwylliannol Cymru a Bryniau Casia a Jaiñtia a wreiddir yn hanes Cenhadaeth Dramor y Methodistaid Calfinaidd Cymreig yng ngogledd-ddwyrain India rhwng 1841 ac 1969. Gan ganolbwyntio ar ddramâu Casi o’r cyfnod trefedigaethol yn ogystal ag enghraifft o berfformiad cenhadol a lwyfannwyd yng Nghymru yn 1929, cwestiynir i ba raddau y dylanwadodd canfyddiadau’r Cymry o theatr a’r ddrama ar berfformio brodorol Bryniau Casia, ac yn yr un modd, i ba raddau y dylanwadodd canfyddiad y cenhadon o India ar y syniad a’r gynrychiolaeth o’r wlad honno mewn portreadau perfformiadol ohoni yng Nghymru.

Lisa Lewis, ‘O’r ddrama gymdeithasol i’r pasiant: theatr yn y gyfnewidfa ddiwylliannol rhwng Cymru a gogledd-ddwyrain India’, Gwerddon, 29, Hydref 2019, 28–58.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
15 items in 2 pages