Pori Categori
Select Categori

9 items in 1 page
PDF

Pwrpas yr erthygl hon yw dangos bod rheolau sgrym Rygbi’r Undeb yn wallus. Mae annhegwch yn anorfod wrth geisio dehongli a gweithredu’r rheolau hyn. Gan fod y sgrym yn ddigwyddiad cydweithredol a chystadleuol sy’n gofyn am ystod o sgiliau a thechnegau cymhleth, mae’n amhosibl i ddyfarnwr benderfynu yn ddibynadwy pwy sydd yn gyfrifol am droseddu. O ganlyniad, mae chwaraewyr yn aml yn cael eu cosbi yn annheg. Gall y gosb fod yn dyngedfennol i ganlyniad y gêm. Nid y chwaraewyr a gosbwyd a achosodd y drosedd o reidrwydd, ac felly nid ydynt yn foesegol gyfrifol amdani. O dan rai amgylchiadau ni allant wrthsefyll y grymoedd sy’n gweithredu arnynt. Er mwyn datrys y sefyllfa rhaid ceisio cadw cydbwysedd rhwng gwella tegwch a thanseilio rhinweddau adloniadol y gêm.

Carwyn Jones a Neil Hennessy, ‘Y Sgrym: Cyfiawnder a Chyfrifoldeb’, Gwerddon, 25, Hydref 2017, 70–85.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Dadleuir bod ymdriniaeth y diwinydd a’r athronydd canoloesol Johannes Duns Scotus o bynciau moesegol diriaethol, megis caethwasiaeth, etifeddiaeth a phriodas, yn arddangos nodweddion cyfraith ganoloesol y Cymry, ac y gellir egluro hyn ar sail agosrwydd y gyfraith honno at gyfraith yr Hen Ogledd. Ymhellach, dadleuir bod y tebygrwydd rhwng y cyfreithiau’n esbonio agweddau Duns Scotus at y pynciau hyn a’r defnydd a wna o ddamcaniaeth cyfraith naturiol ochr yn ochr â Llyfr Genesis i amddiffyn ei safbwynt. Cesglir taw ei fwriad oedd llunio dadansoddiad beirniadol o’r gyfraith naturiol a allai amddiffyn delfryd cyfreitheg yr Hen Ogledd yn erbyn gelyniaeth Eingl-Normanaidd.

Carys Moseley, ‘Moeseg Cyfraith Naturiol Johannes Duns Scotus: a oes ganddi gysylltiadau “Cymreig”?’ Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 48–65.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF
Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Dyma ragair Dr Huw L. Williams ar gyfer Gwerddon rhifyn 21, rhifyn arbennig ar Athroniaeth.

Huw L. Williams, 'Rhagair y golygydd gwadd', Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 5–8.

Cyhoeddwyd y rhagair hwn yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae polisïau a gyflwynwyd i adfywio rhagolygon ieithoedd lleiafrifol wedi bod yn ffynhonnell cryn anesmwythyd yn aml. Weithiau, mae gwrthwynebiadau i’r polisïau hyn yn cael eu mynegi mewn termau moesol, gan gyhuddo rhai mesurau o dorri egwyddorion normadol megis rhyddid unigol a chyfle cyfartal. O ystyried eu natur, mae’r gwrthwynebiadau moesol hyn yn cynnig cwestiynau diddorol i ryddfrydwyr. Felly, sut y dylai rhyddfrydwyr ymateb? Bydd yr erthygl hon yn archwilio’r cwestiwn hwn drwy ganolbwyntio ar un agwedd ddadleuol ar bolisi iaith yng Nghymru: y camau a gymerwyd i osod gofynion o ran yr iaith Gymraeg ar gyfer rhai swyddi yn y sector cyhoeddus. Dyma arfer sydd wedi creu cryn ddadlau, gyda gwrthwynebwyr yn honni ei fod yn tanseilio’r ymrwymiad rhyddfrydol i gyfle cyfartal ym maes cyflogaeth ac, yn benodol, yn torri egwyddor penodi ar sail teilyngdod. A yw dadleuon o’r fath yn gwrthsefyll craffu? A yw gofynion ieithoedd lleiafrifol ym maes cyflogaeth yn mynd y tu hwnt i’r hyn y byddai rhyddfrydwyr yn ei ystyried yn dderbyniol, neu a ellir datblygu amddiffyniad cydlynol sydd â’i wreiddiau yn glir o fewn fframwaith rhyddfrydol?

Huw Lewis, 'Y Gymraeg yn amod cyflogaeth: Cam derbyniol o safbwynt rhyddfrydol?', Gwerddon, 6, Gorffennaf 2010, 55-73.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Yn yr erthygl hon rydym yn herio’r syniad fod cenedlaetholdeb yn gyffredinol, a chenedlaetholdeb ar y maes chwarae yn arbennig, yn anfoesol. Er bod cenedlaetholdeb yn gallu cael ei lygru ar y maes chwarae ac mewn cyd-destunau eraill, nid yw hynny o reidrwydd yn anochel. Trwy drafod athroniaeth cenedlaetholdeb rhyddfrydol, fe fyddwn yn ceisio dangos bod derbyn ymlyniad diwylliannol a chenedlaethol yn hanfodol er mwyn hybu cymuned ryng-genedlaethol. Ymhellach, byddwn yn dadlau bod gan chwaraeon cenedlaethol botensial hynod arwyddocaol i greu fforwm a deialog lle y gall gwahanol ddinasyddion rannu a dysgu oddi wrth ei gilydd.

Hywel Iorwerth a Carwyn Jones, ‘Ystyriaeth feirniadol o arwyddocâd moesegol chwaraeon rhyngwladol’, Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 65–81.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae’r erthygl hon yn canolbwyntio ar dri thraethawd yn ymdrin â Samuel Taylor Coleridge ac Immanuel Kant a gyhoeddwyd gan y diwinydd a’r dysgedydd, Lewis Edwards, yn Y Traethodydd rhwng 1846 a 1853. Ystyrir Edwards yma yn gynrychiolydd arweinwyr crefyddol Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac archwilir ei waith am dystiolaeth o’r agwedd tuag at ddatblygiadau athronyddol y cyfnod a allai gynnig esboniad am ei fethiant i amddiffyn yr iaith a’r diwylliant Cymreig yn wyneb ymlediad y Saesneg.

Y ddadl a roddir gerbron yma yw bod ymlyniad Edwards i resymoliaeth ddyfaliadol, sy’n sail i ddiwinyddiaeth Galfinaidd y cyfnod, yn ei atal rhag ymateb yn uniongyrchol i sialens ddeallusol y cyfnod modern. Yn y tri thraethawd hyn, sy’n cyflwyno meddwl Kant fel y’i mynegir yn ei Kritik cyntaf, ynghyd â diwinyddiaeth athronyddol Coleridge fel a geir yn Aids to Reflection, cawn dystiolaeth glir o amharodrwydd Edwards i ymgymryd ag unrhyw sialens i’r athroniaeth Galfinaidd. Y mae’r darlun a gyflwyna o feddwl y ddau awdur yn ddiffygiol ac yn gamarweiniol. Rhan bwysig iawn o Kritik Kant ac Aids Coleridge oedd eu beirniadaeth ysgubol o resymoliaeth ddyfaliadol. Dewisodd Edwards anwybyddu hyn yn gyfan gwbl er mwyn cynnal ei gred yng ngallu dyn i ymestyn at y gwirionedd trwy gyfrwng sythwelediad deallusol, heb gyfeirio at brofiad empeiraidd.

Dadleuir mai’r dallineb ewyllysgar hwn tuag at y meddwl modern oedd un o’r prif ffactorau a oedd yn symbylu’r brad y cyhuddir Edwards a’i gyfoedion ohono. Awgrymir hefyd bod y brad hwnnw’n tanseilio nid yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig yn unig, ond y grefydd Galfinaidd yr oedd Edwards mor awyddus i’w hamddiffyn. Wrth ymwrthod â sialens y meddwl modern, gadawodd Edwards ei ddisgyblion heb gyfrwng i addasu’r athrawiaeth draddodiadol i ofynion synwyrusrwydd cyfnewidiol. A chanlyniad hynny yn y pendraw oedd ymddieithrwch oddi wrth y gorffennol Ymneilltuol, sydd yn parhau i effeithio arnom heddiw.

Ioan Williams, 'Lewis Edwards a Brad y Dysgedigion', Gwerddon, 24, Awst 2017, 83-101.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Enillydd Gwobr Gwerddon am erthygl orau 2015-17.

Mae’r erthygl hon yn dadansoddi’r berthynas rhwng siaradwyr Cymraeg a Saesneg yn y golygfeydd tafarn mewn dwy nofel gyfoes o dde Cymru, sef Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd (2009) a The Book of Idiots gan Christopher Meredith (2012), yng ngoleuni damcaniaethau athronyddol am yr ‘arall’ ac aralledd. Olrheinir datblygiad cysyniad yr ‘arall’ gan ystyried gwaith athronwyr a damcaniaethwyr diwylliannol megis Georg Hegel, Simone de Beauvoir, Frantz Fanon a Homi Bhabha. Trwy droi at waith Charlotte Williams a Simon Brooks, dadleuir y gallai siaradwyr Cymraeg a Saesneg Cymru fel ei gilydd brofi aralledd, ac yna try’r erthygl at y nofelau er mwyn archwilio sut yr adlewyrchir hyn mewn testunau ffuglennol cyfoes. Daw’r erthygl i gasgliad ynglyˆn ag arwyddocâd aralledd i’r dychymyg a’r hunaniaeth Gymreig gyfoes, ac awgryma sut y gallai syniadau athronyddol eraill ein helpu i ganfod tir cyffredin rhwng dwy brif gymuned ieithyddol y genedl.

Lisa Sheppard, ‘Troi Dalen “Arall”: Ail-ddehongli’r berthynas rhwng cymunedau Cymraeg a Saesneg de Cymru mewn dwy nofel ddiweddar yng ngoleuni ffigwr yr “arall”’, Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 26–47.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Yn yr erthygl hon disgrifir gwreiddiau a pheth o hanes y cyfnodolyn Efrydiau Athronyddol, a gyhoeddwyd rhwng 1938 ac 2006. Cyfnodolyn Adran Athroniaeth Urdd y Graddedigion oedd yr Efrydiau a chyflwynwyd y rhan fwyaf o’r erthyglau fel papurau yn ystod cynhadledd flynyddol yr Adran, cynhadledd sy’n parhau i gael ei chynnal hyd heddiw. Manylir ar natur a chynnwys rhifyn cyntaf y cyfnodolyn, yn ogystal â thynnu sylw at ei brif themâu. Dangosir hefyd sut y daeth newid sylweddol i’r Efrydiau yn 1949 yn sgil penderfyniad allweddol gan aelodau’r Adran. Trodd yr Efrydiau o fod yn gyfnodolyn oedd yn trafod athroniaeth yn unig i fod yn gyfnodolyn lled ryngddisgyblaethol. Wedi’r newid hwnnw, cyhoeddwyd erthyglau ar sawl pwnc ynddo, ond fel arfer â ffocws arbennig ar faterion Cymreig. Yn ail hanner yr erthygl, trafodir papur dylanwadol a phwysig (y cyfraniad pwysicaf yn holl hanes y cyfnodolyn, efallai), sef ‘Y syniad o genedl’ gan yr Athro J. R. Jones. Fe’i cyhoeddwyd y flwyddyn cyn darlledu ‘Tynged yr Iaith’ gan Saunders Lewis, ac yma dadansoddir ei brif ddadleuon. Enghreifftir popeth sy’n bwysig am yr Efrydiau gan yr erthygl: defnyddir dull athronyddol o ddadansoddi, ond mae’n rhyngddisgyblaethol hefyd gan ei bod yn defnyddio elfennau o farddoniaeth a hanes. Mae’n erthygl wleidyddol a dylanwadol, ac yn sgil hynny disgrifiwyd Jones gan yr Athro D. Z. Phillips fel ysbrydoliaeth athronyddol Cymdeithas yr Iaith yn ogystal â bod yn ddylanwad pwysig ar Saunders Lewis.

Steven Edwards, ‘Efrydiau Athronyddol: etifeddiaeth y dylid ei thrysori’, Gwerddon, 21, Ebrill 2016, 13–25.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
9 items in 1 page