Crëwyd yr adnodd hwn er mwyn darparu cefnogaeth seicoleg chwaraeon cyfrwng Cymraeg i athletwyr sy'n siarad Cymraeg. Y nod yw deall yr ymateb pryder perfformiad yn llawn.
Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn Word o'r holiadur, a chliciwch yma i lawrlwytho cyfarwyddiadau.
Mae'r maes pryder perfformiad yn un o'r meysydd yr ymchwilir fwyaf iddo o fewn seicoleg chwaraeon (e.e., Jones, 1995; Mellalieu, Hanton, & Fletcher, 2006; Woodman & Hardy, 2001). Er mwyn cefnogi athletwyr, mae'n hanfodol bod ymchwilwyr yn deall deinameg pryder perfformiad. Mae ymchwil ddiweddar wedi ceisio cyflwyno model newydd o bryder perfformiad sy'n adlewyrchu ein dealltwriaeth bresennol o berthynas cymhleth pryder-perfformiad (Cheng, Hardy a Markland, 2009) yn well. Mae'r model tri dimensiwn pryder yn cynnwys ffactor gwybyddol, ffactor ffisiolegol a ffactor rheoleiddio. Mae mabwysiadu model damcaniaethol manylach, fel yr un a gynigiwyd gan Cheng et al., yn caniatáu i wyddonwyr chwaraeon fod mewn gwell sefyllfa i ddeall profiadau athletwyr cyn ac yn ystod y gystadleuaeth.
Er mwyn creu’r adnodd hwn, cafodd y Rhestr Pryder Perfformiad ei chyfieithu a’i dilysu. Roedd y broses ddilysu yn cynnwys gofyn i athletwyr gwblhau'r holiadur awr cyn digwyddiad cystadleuol. Yna cynhaliwyd cadarnhad Dadansoddi Ffactor er mwyn dadansoddi yn ystadegol ddilysrwydd y mesur hwn. Er mwyn cwblhau’r gwaith hwn gweithiodd Prifysgol Bangor ar y cyd â Chwaraeon Cymru, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru i hwyluso casglu data holiaduron.
Mae’r arf hwn ar gael i seicolegwyr chwaraeon a hyfforddwyr iaith Gymraeg ar draws Cymru gyfan er mwyn caniatáu mwy o ddiagnosis o'r ymateb pryder, ac i strategaethau mwy priodol gael eu teilwra er mwyn ymateb i bryder unigol yr athletwr. Bydd hyn yn helpu perfformiad athletwr mewn digwyddiadau cystadleuol ac o bosibl yn arwain at berfformiad mwy cyson a gwell.
Yn ogystal, gellir defnyddio’r offeryn ymchwil hwn wrth addysgu seicoleg chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio a chasglu data gan ddefnyddio mesur iaith Gymraeg.
Cyllidwyd y gwaith hwn drwy gyfrwng grant bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.