Yn y casgliad hwn, ceir adnoddau sy'n ymwneud ag Astudiaethau Cyfieithu.
Mae cyfieithu i’r Gymraeg wedi tyfu bellach yn ddiwydiant pwysig, ac mae nifer o ymchwilwyr wedi cysylltu cyfieithu ag ymdrechion ehangach ym maes cynllunio ieithyddol. Mae’r oes dechnegol hefyd wedi gwyrdroi sut y mae cyfieithu’n digwydd yn rhyngwladol, ac mae nifer o’r datblygiadau hyn hefyd wedi cyrraedd Cymru. Bwriad yr erthygl hon felly, gan gadw mewn cof bwysigrwydd cyfieithu i gynllunio ieithyddol yng Nghymru, yw ymchwilio i’r effaith y mae Cofion Cyfieithu yn ei chael ar agweddau penodol ar y broses o gyfieithu i’r Gymraeg, gan ofyn a oes lle i’r dechnoleg hon mewn cyd-destun proffesiynol. Pa gyfraniad a all y dechnoleg ei wneud, felly, i gyfieithu a chynllunio ieithyddol yng Nghymru?
Ben Screen, ‘Effaith defnyddio Cofion Cyfieithu ar y broses gyfieithu: Ymdrech a chynhyrchiant wrth gyfieithu i’r Gymraeg’, Gwerddon, 23, Mawrth 2017, 10-35.
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Catalog disgrifiadol o destunau a gyfieithwyd i'r Gymraeg o ddechrau'r ugeinfed ganrif ymlaen ym meysydd y dyniaethau, y celfyddydau a'r gwyddorau cymdeithasol. Detholwyd yn bennaf o blith testunau rhyddiaith a drama all fod o ddiddordeb ar gyfer ymchwil a dysgu ar lefel addysg uwch. Mewn ambell achos y mae cofnod yn arwain at y testun llawn ar-lein.
Dyma farn cwmni cyfieithu Cymen ar werth sgiliau iaith Gymraeg yn y gweithle.
Cynhaliwyd cynhadledd Pontydd Cyfieithu ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 19 Ionawr 2017.
Yma, ceir rhaglen y gynhadledd ynghyd â ffeiliau sain a/neu fideo o bob cyflwyniad neu sesiwn. Cliciwch ar Cyfryngau Cysylltiedig uchod i lawrlwytho'r ffeiliau.
Croeso ac Amcanion y Gynhadledd: Dr Marion Loeffler a’r Athro Elin Haf Gruffydd Jones (ffeil sain, 11'28)
Detholion: Heriau Cyfieithu Gweithiau Allweddol i Ieithoedd Llai ac i’r Gymraeg: Yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones (ffeil sain, 26'35)
Cyfieithu a’r ‘Esboniadur Beirniadaeth a Theori’: Dr Simon Brooks (ffeil sain, 12’36)
Trafodaeth a Chwestiynau: Elin H G Jones a Simon Brooks (Cadeirydd: Dr Ceridwen Lloyd-Morgan) (ffeil sain, 11’30)
Drych y Genedl: Cyfieithiadau’r ‘Marseillaise’ yng Nghymru 1795–1914: Dr Marion Löffler (ffeil sain, 29’18)
Cwestiynau a Thrafodaeth Marion Loeffler (Cadeirydd: Yr Athro Dafydd Johnston) (ffeil sain: 9’04)
Cronfeydd Cyfieithiadau fel Adnodd Ymchwil: Dewi Huw Owen (ffeil sain: 17’32)
Cronfeydd Cyfieithiadau fel Adnodd Ymchwil: Dr Elena Parina (ffeil sain: 14’25)
Cwestiynau a Thrafodaeth Elena Parina (Cadeirydd: Yr Athro Dafydd Johnston) (ffeil sain: 5’43)
Trwy ba ddulliau y crëir ‘Pontydd Cyfieithu’ yng Nghymru heddiw? Safbwyntiau a Phrofiadau: Cyflwyniad gan Dr Sioned Puw Rowlands (ffeil sain: 4’46)
Trwy ba ddulliau y crëir ‘Pontydd Cyfieithu’ yng Nghymru heddiw? Safbwyntiau a Phrofiadau: Ned Thomas (ffeil sain: 23’34)
Trwy ba ddulliau y crëir ‘Pontydd Cyfieithu’ yng Nghymru heddiw? Safbwyntiau a Phrofiadau: Eurig Salisbury (ffeil sain: 26’43)
Trafodaeth a Chwestiynau: Ned Thomas ac Eurig Salisbury (Cadeirydd: Sioned Puw Rowlands) (ffeil sain: 20’46)
Panel: ‘Y Llenor, y Cyfieithydd, a Chyfieithu Llenyddol’: Manon Steffan Ros, Siân Northey, Guto Dafydd a George Jones yn trafod mewn trafodaeth â Mari Siôn, Cyfnewidfa Lên Cymru www.cyfnewidfalen.org (ffeil fideo a ffeil sain, 1 09’15: gweler y rhaglen am ganllaw ar gyfer cynnwys y ffeiliau)
Darlith gan Dr Marion Löffler, Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, a gynhaliwyd ar ddydd Mercher, 22 Hydref 2014, ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Cyflwyniad pwerbwynt ar thema Deddfwriaeth iaith: cyfleoedd i gyfieithwyr a gyflwynwyd gan Meinir Jones o swyddfa Comisiynydd y Gymraeg, yn ystod Cynhadledd Heriau Cyfieithu Heddiw a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 27 Hydref 2017.
Mae’r erthygl hon yn trafod y gweithdrefnau cyfieithu a’r dechnoleg a ddefnyddir yn y Ganolfan Gyfieithu ar gyfer cyrff yr Undeb Ewropeaidd (Centre de Traduction, CDT). Bydd perthnasedd y llif gwaith a’r dechnoleg yn cael ei drafod yn fyr yng nghyd-destun cyfieithu Saesneg-Cymraeg-Saesneg yng Nghymru, gan gyfeirio’n benodol at Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru.
Gareth Watkins, 'Gweithdrefnau cyfieithu’r Ganolfan Gyfieithu ar gyfer cyrff yr UE a’u perthnasedd i Gymru', Gwerddon, 14, Ebrill 2013, 46-67.
Cyflwyniad pwerbwynt ar gyfer Gweithdy Cyfieithu sy’n canolbwyntio ar yr elfennau hanfodol i’w hystyried er mwyn llunio cyfieithiad llwyddiannus.
Y prif siaradwr yn y Gynhadledd Heriau Cyfieithu a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 27 Hydref 2017 oedd John Evans, Cyfieithydd yn y Comisiwn Ewropeaidd.
Dyma’r delweddau sy’n cyd-fynd â’i gyflwyniad yn trafod rôl y cyfieithydd o fewn y Comisiwn Ewropeaidd.
Dyma Lyfryddiaeth ar gyfer y cwrs uwchraddedig Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol.