Pori Categori
Select Categori

7 items in 1 page
PDF

Llwyn bytholwyrdd coediog yw Rhododendron ponticum L., sy’n aelod o deulu’r Ericaceae. Daw yn wreiddiol o Sbaen, Mynyddoedd y Cawcasws ac arfordir y Môr Du. Cafodd ei gyflwyno i Brydain yn y ddeunawfed ganrif. Ers hynny, fodd bynnag, mae wedi datblygu i fod yn un o rywogaethau ymledol mwyaf niweidiol Prydain, gan achosi difrod ecolegol ac economaidd sylweddol. Bydd yr erthygl hon yn trafod hanes R. ponticum yng Nghymru, gan ystyried y ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol sydd wedi cyfrannu at ei lwyddiant yma. Disgrifir y sefyllfa bresennol yng Nghymru, gan gynnwys y mathau o niwed y mae’n eu hachosi, yn ogystal â’r ymdrechion i reoli ei ymlediad. I gloi, bydd yr erthygl yn edrych ar rai o heriau amgylcheddol y dyfodol, a sut y gall y rhain ddylanwadu ar ymlediad R. ponticum.

Gruffydd Jones, John Scullion, Ana Winters, Rhys Owen, John Ratcliffe, Doug Oliver a Dylan Gwynn-Jones, ‘Rhododendron ponticum: Hanes ei gyflwyno a’i ymlediad yng Nghymru, y bygythiad i fioamrywiaeth a’r dyfodol’, Gwerddon, 27, Hydref 2018, 20–38.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Y mae cyflwr yr amgylchedd a threigl amser yn cael eu hadlewyrchu yn lliwiau newidiol y planhigion sydd o’n cwmpas. Y mae cloroffyl, y pigment gwyrdd mewn dail, yn dal golau’r haul ac yn pweru’r biosffer. Y mae diflaniad cloroffyl o ddail yn yr hydref yn datgelu lliwiau melyn ac oren teulu arall o bigmentau planhigion, sef y carotenoidau. Y mae carotenoidau yn amddiffyn planhigion rhag straen ac y maent hefyd yn gyfrifol am liwiau mewn blodau ac am yr oren a choch mewn ffrwythau. Yn yr hydref, y mae dail rhywogaethau, megis masarn, yn gwneud anthocyaninau coch a phorffor, sy’n aelodau o deulu amrywiol o bigmentau a chemegion amddiffyn. Y mae planhigion yn defnyddio pigmentau i anfon signalau at organebau sy’n peillio blodau, i’r rhai sy’n gwasgaru hadau a ffrwythau, ac i ysglyfaethwyr; ymhlith y rhain i gyd y mae’r ddynol ryw, sydd yn ymateb mewn dull ffisiolegol a seicolegol arbennig i’r cemegion a geir yn y planhigion sy’n lliwio ein byd.

Helen Ougham a Howard Thomas, 'Y ddeilen hon: natur, tarddiadau a phwrpas lliwiau dail', Gwerddon, 24, Awst 2017, 38-50.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Cyflwyno rhywogaethau anfrodorol yw un o’r bygythiadau mwyaf sylweddol a wyneba bioamrywiaeth byd eang. Ceir effaith sylweddol ar ecosystemau dŵr croyw, oherwydd cyflwynir nifer fawr o rywogaethau i lynnoedd ac afonydd ar gyfer dyframaethu a physgota. Yn yr erthygl hon, disgrifir yr anifeiliaid dŵr croyw anfrodorol hynny sy’n bresennol ac yn ymledu ym Mhrydain, neu sy’n debygol o ymsefydlu dros y blynyddoedd nesaf. Esbonnir sut effaith y caiff yr anifeiliaid hyn ar ecosystemau dŵr croyw ac economi Prydain, gan hefyd amlygu’r problemau hynny sy’n dod i’r amlwg wrth geisio rheoli’r ymledwyr. Trafodir hefyd sut y bydd newid hinsawdd a bygythiadau eraill yn effeithio ar ddosbarthiad rhywogaethau ymledol yn y dyfodol.

John Rhidian Thomas a Siân W. Griffiths, ‘Anifeiliaid ymledol a’u heffeithiau ar ecosystemau dŵr croyw Prydain’, Gwerddon, 25, Hydref 2017, 7–29.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae’r erthygl hon yn gwerthuso potensial ystod o fôn-gelloedd ar gyfer atffurfio meinwe cardiaidd yn dilyn trawiad ar y galon. Ar sail arolwg cychwynnol o ymchwil perthnasol, cyflwynir rhai o’r prif fecanweithiau biolegol parthed atffurfio meinwe cardiaidd, yn cynnwys:

  1. rôl ffactorau trawsgrifio, megis ocsitosin a c-kit a ffactorau twf paracrinaidd;

  2. astudiaethau ar bysgod rhesog sydd wedi datgelu mecanweithiau megis rôl atffurfiannol cardionogen 1-, 2- a 3-, a’u swyddogaeth yn atal effeithiau ffenoteipiau cardiaidd sy’n rheoli datblygiad y galon;

  3. mecanweithiau cludo ac impwreiddio, yn cynnwys fectorau firol a phlasmidol, ysgogiad trydanol a nanodechnoleg.

Adroddir am ganlyniadau arbrofion in vitro ac in vivo sydd wedi dangos fod i fôngelloedd botensial clinigol yn y maes hwn, yn ogystal â pheryglon imiwnolegol a thiwmorigenig. Ar hyn o bryd (2012), er bod y dystiolaeth glinigol yn brin, awgrymir modelau therapiwtig cymhleth i’w datblygu yn y dyfodol.

Ceir geirfa arbenigol i gydfynd â'r erthygl ar ddiwedd y ddogfen PDF.

Noel Davies, 'Rôl bôn-gelloedd yn adfer meinwe cardiaidd: gwerthuso triniaethau ac adnabod risg', Gwerddon, 20, Hydref 2015, 61-79.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Nitrogen (N) yw’r prif gemegolyn sy’n rheoli twf planhigion. Yn yr ugain mlynedd diwethaf mae ein dealltwriaeth o ba rywogaethau o N sy’n bwysig ar gyfer twf planhigion wedi datblygu’n sylweddol ond y gred yw bod rhaid i folecylau nitrogenus mawr gael eu torri i lawr i asidau amino unigol er mwyn i blanhigion a microbau eu defnyddio. Mae’r erthygl hon yn adeiladu ar ein dealltwriaeth ac yn awgrymu bod peptidau bach yr un mor bwysig fel maeth ar gyfer ffyniant microbau’r pridd ac mai’r microbau hynny sy’n ennill y gystadleuaeth am N toddedig ym mhriddoedd yr Antarctig dymherol.

Paula Roberts, 'A yw peptidau bach yn ffynhonnell maeth i briddoedd a phlanhigion yr Antarctig forwrol?', Gwerddon, 13, Chwefror 2013, 29-47.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Dengys ystadegau Llywodraeth Prydain y bydd prinder cig a llaeth erbyn 2050 ar lefel byd-eang. Felly mae sicrhau diogelwch llaeth a chig i’r dyfodol, yn nhermau argaeledd a maeth, yn hollbwysig. Yn ganolog i sicrhau argaeledd a maeth llaeth a chig y mae’r cilgnowyr. Mae gan gilgnowyr bedair siambr i’w stumog, sef y reticwlwm, y rwmen, yr abomaswm a’r omaswm ac mae’r eplesu microbaidd sy’n digwydd yn y rwmen yn diffinio rhan helaeth o dwf yr anifail, ansawdd y cynnyrch a swm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr. Wrth i borthiant gyrraedd y rwmen mae micro-organebau’r rwmen yn diraddio wal y planhigyn ac yn metaboleiddio’r maetholion yng nghelloedd y planhigyn, gan gynnwys asidau amino a phroteinau i greu proteinau unigryw. I sicrhau argaeledd llaeth a chig o’r ansawdd gorau (gyda chyn lleied a phosibl o allyriadau nwyon tŷ gwydr) yn y dyfodol, mae’n gwbl angenrheidiol ein bod yn gwella ein dealltwriaeth o’r adwaith rhwng y planhigyn a’r micro-organebau, a hynny trwy ddefnyddio egwyddorion bioleg systemau a thechnoleg ‘omeg’.

Sharon Huws, Gareth W. Griffith, Joan E. Edwards, Hefin W. Williams, Penri James, Iwan G. Owen ac Alison H. Kingston-Smith, 'Sicrhau argaeledd cynnyrch cilgnowyr o’r ansawdd gorau mewn modd effeithlon', Gwerddon, 13, Chwefror 2013, 10-28.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Y mae dosbarthiad daearyddol Ophelia bicornis yn gyfyngedig i arfordir Môr y Canoldir, y Môr Du ac arfordir gorllewinol Ewrop hyd at Lydaw a rhannau o ddeheudir Prydain Fawr. O fewn y dosbarthiad llydan hwn, cyfyngir y mwydyn i rannau cul iawn (yng nghyd-destun codiad a disgyniad y llanw) o dywod sydd, ar y cyfan, yn anghymwys i gynnal poblogaethau o anifeiliaid a phlanhigion. Serch hyn, dangosir bod Ophelia yn llwyddo ac yn ffynnu – a bod hyn yn dibynnu, i raddau helaeth iawn, ar addasiadau corfforol a ffisiolegol.

Tegwyn Harris, 'Ecoleg unigryw Ophelia bicornis, Savigny (Polychaeta)', Gwerddon, 13, Chwefror 2013, 48-65.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
7 items in 1 page