Pori Categori
Select Categori

7 items in 1 page
PDF

Gydag ansicrwydd yn sgil y newid yn yr hinsawdd, mae adluniadau o gofnodion parameteorolegol a ffenolegol yn darparu sail gref ar gyfer dadansoddi’r hinsawdd nawr ac yn y gorffennol. Fodd bynnag, ychydig iawn o ymchwil sydd wedi’i chwblhau ynghylch hinsawdd hanesyddol Cymru, sy’n amrywio drwy’r wlad oherwydd ffactorau megis topograffeg a chylchrediad atmosfferig. Mae hyn yn arbennig o wir am orllewin Cymru, sydd ag amrywiaeth o amgylcheddau, o ‘ddiffeithwch gwyrdd’ yr ucheldir i’r gwastatiroedd arfordirol ffrwythlon, lle gellid adlunio hanes helaeth o bosibl o adnoddau dogfennol digyffwrdd. Mae’r potensial yn anferth gan fod ffynonellau posibl gwybodaeth feteorolegol yn cynnwys yr holl ddogfennau crefyddol, swyddogol a phersonol, a allai gynnig cipolwg ar y berthynas rhwng y Cymry a’r tywydd.

Cerys A. Jones, Neil Macdonald, Sarah J. Davies, Cathryn A. Charnell-White, Twm Elias a Duncan Brown, 'Hinsawdd hanesyddol: Potensial ffynonellau dogfennol Cymru', Gwerddon, 6, Gorffennaf 2010, 34-54.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Casglwyd 701 o ddarnau o sbwriel fesul cilomedr o heol fach, wledig yng Ngwynedd. Lleiafswm cost ‘gudd’ flynyddol y sbwriel – sef y gost dybiedig o gasglu’r sbwriel na chesglir ar hyn o bryd – yw £11.81 y cilomedr. Amcangyfrif cost flynyddol sbwriel ar heolydd bach Cymru yw £230,000. Gellid cael gwared ar ganran helaeth o’r sbwriel dan sylw wrth gyflwyno system ernes i boteli a chaniau. Roedd 13 o gwmnïau unigol yn gyfrifol am gynhyrchu dros chwarter o’r sbwriel. Gallai Llywodraeth Cymru drefnu ad-daliad gan y cwmnïau hyn o £58,000 y flwyddyn er mwyn digolledu costau cudd y sbwriel sy’n gysylltiedig â nhw.

Gareth Clubb, 'Sbwriel ar heolydd bach Cymru: Astudiaeth achos Penisa'r Waun', Gwerddon, 12, Rhagfyr 2012, 10-23.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Llwyn bytholwyrdd coediog yw Rhododendron ponticum L., sy’n aelod o deulu’r Ericaceae. Daw yn wreiddiol o Sbaen, Mynyddoedd y Cawcasws ac arfordir y Môr Du. Cafodd ei gyflwyno i Brydain yn y ddeunawfed ganrif. Ers hynny, fodd bynnag, mae wedi datblygu i fod yn un o rywogaethau ymledol mwyaf niweidiol Prydain, gan achosi difrod ecolegol ac economaidd sylweddol. Bydd yr erthygl hon yn trafod hanes R. ponticum yng Nghymru, gan ystyried y ffactorau amgylcheddol a chymdeithasol sydd wedi cyfrannu at ei lwyddiant yma. Disgrifir y sefyllfa bresennol yng Nghymru, gan gynnwys y mathau o niwed y mae’n eu hachosi, yn ogystal â’r ymdrechion i reoli ei ymlediad. I gloi, bydd yr erthygl yn edrych ar rai o heriau amgylcheddol y dyfodol, a sut y gall y rhain ddylanwadu ar ymlediad R. ponticum.

Gruffydd Jones, John Scullion, Ana Winters, Rhys Owen, John Ratcliffe, Doug Oliver a Dylan Gwynn-Jones, ‘Rhododendron ponticum: Hanes ei gyflwyno a’i ymlediad yng Nghymru, y bygythiad i fioamrywiaeth a’r dyfodol’, Gwerddon, 27, Hydref 2018, 20–38.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Enillydd Gwobr Gwerddon am erthygl orau 2014.

Mae cloddio am lo a phrosesau cysylltiedig wedi effeithio ar amgylchedd naturiol rhan orllewinol maes glo de Cymru wrth i ddŵr llygredig sy’n arllwys o hen lofeydd gyrraedd y system hydrolegol leol. Mae gwaddol y gwaith cloddio yn yr ardal hon yn cynnwys ffurfiant dŵr llygredig, a lifa o sawl hen lofa, yn ogystal â ffurfiant mwynau haearn. Yn yr erthygl hon trafodir y prosesau tanddaearol sydd ar waith yn y glofeydd sy’n arwain at ffurfiant dŵr llygredig a mwynau haearn. Ymdrinnir yn benodol â phedair o’r hen lofeydd gan edrych ar y gwahanol systemau trin dŵr a ddefnyddir ar y safleoedd hynny. Mae’r systemau yn trin y dŵr llygredig drwy gael gwared â’r haearn fel bod y crynodiadau terfynol yn is na’r trothwy a bennwyd gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Nia Blackwell, William. T. Perkins ac Arwyn Edwards, 'Etifeddiaeth cloddio am lo ym maes glo de Cymru: llygredd dŵr ac opsiynau i’w leihau', Gwerddon, 18, Medi 2014, 55-76.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Nitrogen (N) yw’r prif gemegolyn sy’n rheoli twf planhigion. Yn yr ugain mlynedd diwethaf mae ein dealltwriaeth o ba rywogaethau o N sy’n bwysig ar gyfer twf planhigion wedi datblygu’n sylweddol ond y gred yw bod rhaid i folecylau nitrogenus mawr gael eu torri i lawr i asidau amino unigol er mwyn i blanhigion a microbau eu defnyddio. Mae’r erthygl hon yn adeiladu ar ein dealltwriaeth ac yn awgrymu bod peptidau bach yr un mor bwysig fel maeth ar gyfer ffyniant microbau’r pridd ac mai’r microbau hynny sy’n ennill y gystadleuaeth am N toddedig ym mhriddoedd yr Antarctig dymherol.

Paula Roberts, 'A yw peptidau bach yn ffynhonnell maeth i briddoedd a phlanhigion yr Antarctig forwrol?', Gwerddon, 13, Chwefror 2013, 29-47.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Dengys ystadegau Llywodraeth Prydain y bydd prinder cig a llaeth erbyn 2050 ar lefel byd-eang. Felly mae sicrhau diogelwch llaeth a chig i’r dyfodol, yn nhermau argaeledd a maeth, yn hollbwysig. Yn ganolog i sicrhau argaeledd a maeth llaeth a chig y mae’r cilgnowyr. Mae gan gilgnowyr bedair siambr i’w stumog, sef y reticwlwm, y rwmen, yr abomaswm a’r omaswm ac mae’r eplesu microbaidd sy’n digwydd yn y rwmen yn diffinio rhan helaeth o dwf yr anifail, ansawdd y cynnyrch a swm yr allyriadau nwyon tŷ gwydr. Wrth i borthiant gyrraedd y rwmen mae micro-organebau’r rwmen yn diraddio wal y planhigyn ac yn metaboleiddio’r maetholion yng nghelloedd y planhigyn, gan gynnwys asidau amino a phroteinau i greu proteinau unigryw. I sicrhau argaeledd llaeth a chig o’r ansawdd gorau (gyda chyn lleied a phosibl o allyriadau nwyon tŷ gwydr) yn y dyfodol, mae’n gwbl angenrheidiol ein bod yn gwella ein dealltwriaeth o’r adwaith rhwng y planhigyn a’r micro-organebau, a hynny trwy ddefnyddio egwyddorion bioleg systemau a thechnoleg ‘omeg’.

Sharon Huws, Gareth W. Griffith, Joan E. Edwards, Hefin W. Williams, Penri James, Iwan G. Owen ac Alison H. Kingston-Smith, 'Sicrhau argaeledd cynnyrch cilgnowyr o’r ansawdd gorau mewn modd effeithlon', Gwerddon, 13, Chwefror 2013, 10-28.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae’r sector ynni adnewyddadwy yn prysur dyfu wrth i wledydd anelu at gyrraedd targedau lleihau allyriadau carbon a sefydlu strategaeth fwy cynaliadwy o greu ynni. Er hyn, dadleuir nad yw datblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr yn llwyddo i gyfrannu tuag at gynaliadwyedd cymunedol a’r economi lleol. Yn ôl ymchwil ddiweddar, mae prosiectau ynni cymunedol – prosiectau ynni adnewyddadwy sydd wedi eu perchenogi’n rhannol neu’n llawn gan gymuned ddaearyddol benodol – yn cael eu gweld fel ffordd o gynhyrchu ynni mewn modd mwy derbyniol, teg a chynaliadwy. Mae’r erthygl hon yn adolygu’r llenyddiaeth bresennol sy’n trafod manteision y sector ynni cymunedol a’r hyn sy’n llesteirio datblygiadau yn y maes hwn.

Sioned Haf, 'Ynni adnewyddadwy cymunedol: adolygiad o’r sefyllfa bresennol a phosibiliadau’r sector unigryw hwn', Gwerddon, 20, Hydref 2015, 10-29.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
7 items in 1 page