Pori Categori
Select Categori

13 items in 2 pages
PDF

Dyma becyn adnoddau sydd cyflwyno enghreifftiau o sut i ddefnyddio technegau ystadegol mewn traethawd ymchwil israddedig.

Mae’n cynnwys 12 pennod hunanhyfforddiant ar gyfer myfyrwyr ail flwyddyn, yn cynnwys:

  • ymdriniaeth ag adnoddau priodol a data
  • cyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio System Gwybodaeth Ddaearyddol (SGDd / GIS). 

Mae'r pecyn yn cynnwys llawlyfr a ffeiliau data. I lawrlwytho'r ffeiliau, cliciwch yma.

Datblygwyd gan Brifysgol Aberystwyth drwy nawdd y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg (rhagflaenydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol).

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae’r llyfr hwn yn esbonio cefndir a chyd-destun yr etifeddiaeth hanesyddol unigryw sydd wedi cynhyrchu’r Gaerdydd sy’n bodoli heddiw. Ffocws y llyfr ydy cynllunio a datblygiadau ffisegol y ddinas, er enghraifft, y trawsnewidiad ym Mae Caerdydd.

Bydd y llyfr yn ddefnyddiol fel rhan o fodiwlau ar ddaearyddiaeth trefol ac adfywiad trefol, ac hefyd ar gyfer ymweliadau astudiaethol, lle gall y myfyrwyr dilyn Taith Gerdded Bae Caerdydd.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
01:15:48

Darlith flynyddol Edward Lhuyd 2023

Dr Carol Bell: Her pawb i greu dyfodol cynaliadwy: gweld y patrwm a buddsoddi ar gyfer y tymor hir

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
46:09

Yr Athro Siwan Davies yn traddodi Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru.

Traddodwyd y ddarlith ym Mhrifysgol Abertawe nos Fercher 12 Tachwedd 2014.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

'Ynni, Gwaith a Chymhlethdod: Saith Chwyldro Hanesyddol' – Darlith Flynyddol Edward Lhuyd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas Ddysgedig Cymru 2017.

Traddodwyd gan yr Athro Emeritws R. Gareth Wyn Jones ar nos Iau 9 Tachwedd 2017 yn Pontio, Bangor.

Yn y ddarlith hon, dehonglir hanes bywyd ar ein planed dros 4.5 biliwn blwyddyn ei bodolaeth.

Dadleuir bod modd adnabod chwe chwyldro ynni ffurfiannol yn hanes ein planed. Drwy ffrwyno ffynhonnell newydd o ynni, daw’r potensial i wneud gwaith ychwanegol, sy’n arwain at gymhlethdod materol ac at gymhlethdod cymdeithasol cynyddol.

Beth yw’r patrymau yn y chwe chwyldro? Beth yw eu goblygiadau ar gyfer y seithfed chwyldro, sydd ar ein gwarthaf ni heddiw?

Mae R. Gareth Wyn Jones wedi ysgrifennu cyfrol Energy: The Great Driver yn seiliedig ar y syniadau a gyflwynodd yn ei ddarlith. Fe'i cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2019.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
22:08

Cyflwyniad Dr Paula Roberts, Prifysgol Bangor, yng Nghynhadledd Wyddonol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2019.
Cyflwyniad ar sut mae carbon yn ymddwyn mewn priddoedd ychydig o dan y rhewbwynt. Trafodir faint o ddŵr hylifol sydd ar gael ar wahanol dymereddau ym mhriddoedd rhostir a dolydd yr Arctig a sut mae hyn yn effeithio ar ficrobau ac, o ganlyniad, ar allyriant carbon deuocsid.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 

Diffiniadau ac esboniadau o dermau daearyddol, gan gynnwys prosesau, tirffurfiau, damcaniaethau a thechnegau.

Adeiledd Cymdeithasol
Afon syth
Carst
Cenfetreg
Cerlan
Cludiant Aeolaidd
Cydbwysedd
Cyfnod Cwaternaidd
Daearyddiaeth Ymgorfforol
Damcaniaeth Anghynrychioliadol
Hinsoddeg
Hydrograff
Lle
Llen iâ
Mapio Llifogydd
Mas-Symudiad
Modelu Hydrolig
Naddlin
Osgiladiad Gogledd Iwerydd
Oson
Palaeosianel
Peiran
Rhewlif
Rhychiadau, Rhigolau A Phlicnodau Ffrithiant
Sianeleiddio
Sianeli Dŵr Tawdd
Til
Tirffurfiau Ffrwdrewlifol
Torlannol
Trothwy

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae’r pecyn deunyddiau yma yn cynnwys deunydd sydd yn cyflwyno ac yn cefnogi sesiwn chwarae rôl sydd yn ysgogi trafodaeth am ymateb y ddynoliaeth i newid hinsawdd.

Mae’r deunydd yn sail i ffug-ddadl y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd lle mae grŵp o fyfyrwyr yn chwarae rhan gwlad neu grŵp penodol o wledydd.

Mae’r adnoddau yn cynnwys disgrifiad o’r dasg, gwahanol ffyrdd o negydu ymatebion lliniaru, ymaddasu a llywodraethu, yn ogystal â phecynnau gwybodaeth am bob gwlad/grŵp o wledydd. Mae cyflwyniad Powerpoint byr hefyd ar gael er mwyn cyflwyno a strwythuro’r gweithdai.

Mae’r deunyddiau yn ddelfrydol ar gyfer cynnal sesiynau gyda myfyrwyr chweched dosbarth er mwyn arddangos cymhlethdodau cymdeithasol, gwleidyddol ac amgylcheddol newid hinsawdd.

Datblygwyd y deunyddiau gan Dr Hywel Griffiths a Dr Rhys Dafydd Jones, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth.

Cliciwch ar 'Cyfryngau Cysylltiedig' uchod i lawrlwytho'r holl ddogfennau yn y pecyn.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
04:14

Fideo sy'n dangos sut mae cylchrediad dŵr yng ngogledd Môr yr Iwerydd yn effeithio ar dywydd Cymru.

Jess Mead Silvester (myfyriwr PhD ar y pryd mewn Ffiseg Eigion) sydd wedi sgriptio ac sy’n cyflwyno.

Cynhyrchwyd gan Brifysgol Cymru drwy brosiect Cadarn.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
24:06

Cyflwyniad Catrin Williams, a gyflwynwyd ar ei rhan gan Dr Eifiona Lane, Prifysgol Bangor yng Nghynhadledd Wyddonol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2019.

Mae Ynys Môn yn safle cadwraeth Daearegol UNESCO oherwydd ei hamrywiaeth ddaearegol. Rho hyn gyfle i edrych ar ddatblygiad cynaliadwy rhanbarthol. Trwy fapio’r parc daearegol gan ddefnyddio data digidol, gellir creu proffil o’r gofod ar gyfer rheolwyr a chynllunwyr amgylcheddol i hyrwyddo dealltwriaeth well o’r heriau rheoli, yn enwedig wrth ystyried prosiectau ynni a’r economi werdd carbon isel.

Eglura’r cyflwyniad rhan gyntaf y prosiect i greu amlinelliad/map digidol i osod sylfaen ymchwil. Bydd y mapiau yn cefnogi cyd-gynhyrchu a chydweithio ar draws gwahanol sectorau a chryfhau ymgynghoriad llawn a chymunedol ar ddyfodol y tirlun sydd yn cael cydnabyddiaeth fyd-eang am ei phwysigrwydd daearegol. Trwy ddeall y gofod yn well, gellir cymharu Geo-môn â Geoparciau lloeren eraill o fewn y DU fydd yn galluogi tyfu cyfalaf cymdeithasol i ddiogelu cyfalaf naturiol trwy rannu ymarfer da rhyngwladol.

Cychwynnir yr ymchwil gydag astudiaeth ddesg o haenau GIS sydd eisoes yn bodoli, dogfennaeth hanesyddol a pholisïau cyfredol, ymweliadau safle a chyfweliadau ag arbenigwyr a rhanddeiliaid lleol, i adnabod blaenoriaethau cadwraeth a datblygiad cyfrifol ar gyfer y corff rheoli a phartneriaid lleol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
13 items in 2 pages