Cyflwyniad Catrin Williams, a gyflwynwyd ar ei rhan gan Dr Eifiona Lane, Prifysgol Bangor yng Nghynhadledd Wyddonol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2019.
Mae Ynys Môn yn safle cadwraeth Daearegol UNESCO oherwydd ei hamrywiaeth ddaearegol. Rho hyn gyfle i edrych ar ddatblygiad cynaliadwy rhanbarthol. Trwy fapio’r parc daearegol gan ddefnyddio data digidol, gellir creu proffil o’r gofod ar gyfer rheolwyr a chynllunwyr amgylcheddol i hyrwyddo dealltwriaeth well o’r heriau rheoli, yn enwedig wrth ystyried prosiectau ynni a’r economi werdd carbon isel.
Eglura’r cyflwyniad rhan gyntaf y prosiect i greu amlinelliad/map digidol i osod sylfaen ymchwil. Bydd y mapiau yn cefnogi cyd-gynhyrchu a chydweithio ar draws gwahanol sectorau a chryfhau ymgynghoriad llawn a chymunedol ar ddyfodol y tirlun sydd yn cael cydnabyddiaeth fyd-eang am ei phwysigrwydd daearegol. Trwy ddeall y gofod yn well, gellir cymharu Geo-môn â Geoparciau lloeren eraill o fewn y DU fydd yn galluogi tyfu cyfalaf cymdeithasol i ddiogelu cyfalaf naturiol trwy rannu ymarfer da rhyngwladol.
Cychwynnir yr ymchwil gydag astudiaeth ddesg o haenau GIS sydd eisoes yn bodoli, dogfennaeth hanesyddol a pholisïau cyfredol, ymweliadau safle a chyfweliadau ag arbenigwyr a rhanddeiliaid lleol, i adnabod blaenoriaethau cadwraeth a datblygiad cyfrifol ar gyfer y corff rheoli a phartneriaid lleol.