Pori Categori
Select Categori

9 items in 1 page
21:56

Cyflwyniad yr Athro Ifan G. Hughes, Prifysgol Durham yng Nghynhadledd Wyddonol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2019.
Cyflwyniad ar gyfrifiaduron cwantwm yn trafod rhyfeddodau'r ddamcaniaeth gwantwm a defnyddiau cwantwm, o ffactorio i gryptograffeg, a rhwystrau adeiladu cyfrifiaduron cwantwm mewn bydysawd anghydlynnus.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
21:10

Cyflwyniad Dr Iorwerth Thomas, Prifysgol Caerwysg, yng Nghynhadledd Wyddonol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2019.
Mae angen cynhyrchu defnyddiau gydag ystod eang o ddargludyddion thermol ar gyfer technolegau newydd megis batris, dyfeisiadau thermoelectrig ac ati. Un dull o reoli'r dargludedd thermol yw nanostwythuro. Yn y cyflwyniad hwn, disgrifir dull damcaniaethol o ragdybio’r dargludedd thermol mewn dau fath o nano-strwythur.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae’r gwaith hwn yn seiliedig ar y syniad o gynllunio laser â’r gallu i daflu golau ar ddwy donfedd wahanol yr un pryd. Mae laser o’r math hwn wedi cael ei gynllunio yn y gorffennol, ond roedd y gwahaniaeth rhwng y ddwy donfedd ar raddfa lawer mwy. Bwriedir lleihau’r gwahaniaeth hwn, ond byddwn yn dal i fedru cael y laser i allyrru gan ddefnyddio dwy donfedd ar wahân. Bydd effaith ehangu lled y llinell hefyd yn cael ei ystyried, gan ei bod yn bwysig edrych ar y pellter rhwng y ddwy donfedd cyn eu bod yn ymddangos yn un brig llydan yn y sbectrwm, yn hytrach na dau frig cul. Bydd y pellter hwn yn cael ei fesur er mwyn sefydlu terfyn ar gyfer y gwahaniad mwyaf posibl rhwng y ddwy donfedd lle na fyddai’n bosibl gweld dwy linell gydrannol yn y sbectrwm. Bydd gwneud hyn yn galluogi dylunio ‘laser tonfedd ddeuol’ ag amrediad o wahaniaethau o ran tonfedd, a fydd yn arwain at y posibilrwydd o greu ymbelydredd teraherts o un laser, yn hytrach na ‘chymysgu’ y golau o ddau laser gwahanol gyda’i gilydd, fel a wnaed yn y gorffennol.

Daniel Roberts ac Iestyn Pierce, ‘Cynllunio “Laser Tonfedd Ddeuol”’, Gwerddon, 22, Hydref 2016, 75–93.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae’r gwybodaeth sydd gennym o gorona’r haul yn seiliedig ar arsylwadau a wneir o bell. Mae’n amhosib, felly, i ddyfalu strwythur tri-dimensiwn y corona yn uniongyrchol. Mae’r erthygl hon yn crynhoi hanes ac yn rhoi braslun o astudio’r corona yng nghyswllt ei strwythur, ac yn disgrifio technegau newydd sydd am y tro cyntaf yn ein galluogi i wybod strwythur y corona mewn manylder. Rhoddir disgrifiad o’r newid yn y strwythur dros gylchred bywiogrwydd yr haul, gwybodaeth newydd am y cyswllt rhwng y maes magnetic a’r dwysedd coronaidd, a chanlyniadau newydd ar raddfeydd cylchdroi’r corona. Mae’r canlyniadau yn dangos fod modd cynnyddu’n gwybodaeth o’r corona yn fawr trwy gymhwyso’r technegau tomograffi newydd, gan alluogi ac ysgogi astudiaethau pellach o’r corona yn y blynyddoedd nesaf.

Huw Morgan, 'Corona’r haul: Astudiaeth o strwythur atmosffer yr haul', Gwerddon, 10/11, Awst 2012, 64-82.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae gan yr Haul faes magnetig cymhleth sy’n ymdreiddio drwy’r ffotosffer (arwyneb yr Haul) i’r corona (atmosffer yr Haul). Ymddengys fod fflwcs magnetig newydd yn codi drwy arwyneb yr Haul ar ffurf dolenni caeëdig gydag un rhan o’r ddolen yn treiddio i’r ffotosffer, gan ehangu i’r corona. Mae’r broses yn nodweddiadol o ardaloedd bywiog yn y corona. Trwy gydol y broses, caiff y maes magnetig yn y corona ei greu a’i adnewyddu’n gyson. Mae hefyd yn bosibl i’r maes magnetig a phlasma (nwy trydanol egnïol) gael eu cludo allan o’r corona drwy lifo gyda gwynt yr Haul i’r heliosffer (y gofod yng nghynefin yr Haul sy’n cynnwys cysawd yr Haul). Ceir cludiant o’r fath yn ystod digwyddiadau ffrwydrol ar yr Haul. Yn ôl y llenyddiaeth gyfredol, ni cheir cludiant oni cheir digwyddiad ffrwydrol, ac felly pan na cheir ffrwydrad, disgwylir y caiff meysydd magnetig caeëdig ardaloedd bywiog y corona eu hynysu rhag yr heliosffer. Mae’r erthygl hon yn cyflwyno tystiolaeth wahanol i’r llenyddiaeth gyfredol. Mae’r arsylwadau a gyflwynir yn dangos y dystiolaeth gyntaf y gall y maes magnetig caeëdig ehangu’n uniongyrchol o’r corona heb ddigwyddiad ffrwydrol gan ffurfio rhan bwysig o wynt yr Haul. Cesglir y dystiolaeth drwy gymhwyso technegau delweddu newydd i arsylwadau o’r corona. Cyflwynir yr arsylwadau a thrafodir eu goblygiadau i’r darlun cyfredol a geir o’r prosesau sy’n cysylltu’r Haul â’r heliosffer.

Huw Morgan, 'Ehangiad ardaloedd bywiog o’r Haul i’r gofod', Gwerddon, 18, Medi 2014, 10-22.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Cyhoeddwyd y llyfr hwn yn wreiddiol yn 1964 pan oedd y ras i’r lleuad yn ei anterth. Ceir ynddo hanes yr ras fawr rhwng Unol Daleithiau America a Rwsia ac amlinelliad hefyd o'r gweithgareddau eraill yn y gofod. Fe’i ysgrifennwyd er mwyn esbonio egwyddorion y maes i’r Cymro cyffredin heb gefndir gwyddonol.

Gellir lawrlwytho'r e-lyfr ar ffurf PDF, ePub neu Mobi (gweler Cyfryngau Cysylltiedig uchod).

  • I ddarllen yr e-lyfr ar sgrin cyfrifiadur a/neu i argraffu rhannau ohono, lawrlwythwch y ffeil PDF.
  • I ddarllen yr e-lyfr ar iBooks, Nook, Kobi a'r rhan fwyaf o ddyfeisiau e-ddarllen eraill, lawrlwythwch y ffeil ePub.
  • I ddarllen yr e-lyfr ar Kindlelawrlwythwch y ffeil Mobi.

Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer darllen e-lyfr ar amrywiol declynnau yma.

Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido, E-gyhoeddi a Chorpws Electronig. Nod y prosiect yw creu e-lyfrau newydd o destunau Cymraeg sy'n allweddol ar gyfer ysgolheictod cyfrwng Cymraeg ond sydd allan o brint. Gallwch weld yr holl e-lyfrau yn y categori DEChE (Prosiect Digido).

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae’r Haul yn system ddynamig, gymhleth, sy’n llawn nodweddion diddorol a phwysig. Gellir modelu’r fath nodweddion drwy sawl dull, e.e. modelau Meysydd Di-rym Aflinol (NLFFF: non-linear force-free field).

Yn y papur hwn, adeiladir efelychiadau NLFFF. Y bwriad yw amcangyfrif patrymau gofodol y maes magnetig yng nghromosffer a chorona’r Haul ynghyd â newidiadau yn yr egni rhydd sydd yn y system, fel colledion egni oherwydd ffrwydradau ar yr Haul. Mae gan y rhan fwyaf o fodelau sydd eisoes yn bodoli gydraniad amserol (temporal cadence) o 12 munud ar y gorau (h.y. efelychir y sefyllfa bob 12 munud). Mae’r dull a drafodir yn y papur hwn yn gwneud sawl bras amcan ond mae’n anelu at gyrraedd cydraniad amserol o 45 eiliad. Canfyddir bod y dull a ddefnyddir yma yn efelychu data synthetig yn llwyddiannus, ac wrth ymdrin â data go iawn, mae’n cynhyrchu delweddau sy’n aml yn cyfateb yn dda i arsylwadau. Gwelir sawl cwymp yn yr egni rhydd o fewn y system, sy’n cyfateb i ffrwydradau yr arsylwyd arnynt. Gyda hynny, rhoddir golwg newydd ar brosesau cyflym sydd i’w gweld ar yr Haul.

Jeff Smith, 'Model amldonfedd i ddelweddu a dadansoddi meysydd magnetig yng nghorona’r Haul', Gwerddon, 18, Medi 2014, 23-40.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Defnyddir lloerennau Cluster er mwyn ymchwilio i wynt yr Haul, a chan y ceir pedair lloeren, gellir mesur strwythur 3-D gwynt yr Haul. Gan fod tyrfedd yn ffenomen 3-D, y mae Cluster yn ddelfrydol ar gyfer ymchwilio i dyrfedd. Dengys yr arsylwadau hyn y goruchafir tyrfedd yng ngwynt yr Haul ar feintiau radiws cylchdroi protonau gan donnau Alfvén Cinetig yn ogystal â fortecsau magnetig. Y mae’r ymchwil hon yn atgyfnerthu’r dybiaeth o fodolaeth tonnau Alfvén Cinetig yng ngwynt yr Haul ac yn awgrymu am y tro cyntaf y gall tonnau a fortecsau magnetig gydfodoli yng ngwynt yr Haul.

Owen Wyn Roberts, Xing Li, a Bo Li, 'Tyrfedd yng ngwynt yr Haul', Gwerddon, 19, Ebril 2015, 45-58.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
PDF

Mae’r papur yn ymchwilio i strwythur ac ymddygiad yr atmosffer wedi’i ïoneiddio (trydanol) yn y nos yn yr ardaloedd pegynol ac awroraid; sef yr ardal lle y mae goleuni’r Gogledd yn digwydd. O ddiddordeb arbennig y mae strwythurau plasma ar raddfeydd llorweddol o gannoedd o gilometrau. Cafodd yr arsylwadau a gyflwynir eu gwneud gan arbrawf radiotomograffeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, y mae ganddi bedair system derbyn lloeren yn yr Arctig uchel ger pegwn y gogledd, yn Ny Ålesund a Longyearbyen ar Svalbard, Bjørnøya (Ynys yr Arth) a Tromsø ar dir mawr Norwy. Mae cymariaethau rhwng delweddau tomograffeg ac arsylwadau ar lif plasma gan y radar rhyngwladol, SuperDARN, yn awgrymu bod plasma dwysedd mawr a gynhyrchir ar ochr y dydd yn llifo ar draws yr ardal begynol ac i sector y nos. Mae’r canlyniadau yn cyfrannu at y gwaith o ddehongli prosesau ffisegol sy’n cysylltu amgylchedd y Ddaear â’r gofod, ac maent hefyd o ddiddordeb i ddefnyddwyr systemau radio lle gall yr atmosffer wedi’i ïoneiddio ddirywio ymlediad y signalau.

S. Eleri Pryse, Helen R. Middleton ac Alan G. Wood, 'Llif yr atmosffer drydanol dros begwn y gogledd: Arsylwadau tomograffi radio a SuperDARN', Gwerddon, 2, Hydref 2007, 35-50.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Penodau
Dim Penodau
Sioeau Sleidiau
Dim Sioeau Sleidiau
 × 
Llwytho i lawr
 × 
Dim Llinellau Amser Cwis
 × 
9 items in 1 page