Neidio i'r prif gynnwys
Logo
Header Logo
Categorïau
Offer
  • Dal Ystafell
Mewngofnodi
  • Allgofnodi / Mewngofnodi
  • Mewngofnodi
  • Categorïau
  • Dal Ystafell
  • Allgofnodi / Mewngofnodi
  • Manylion
  • Cyfryngau Cysylltiedig

Huw Morgan, 'Ehangiad ardaloedd bywiog o’r Haul i’r gofod' (2014)

Preifat
Cyhoeddus
Dogfen
Lleoliad : Adnoddau Agored
Ychwanegwyd : 20/08/2015 10:29:06
Imported Item
Wedi'i wylio : 304 o weithiau
Ystadegau'r eitem
Llwytho i lawr
  • Llwytho PDF i lawr
Dangos disgrifiad o'r adnodd

Mae gan yr Haul faes magnetig cymhleth sy’n ymdreiddio drwy’r ffotosffer (arwyneb yr Haul) i’r corona (atmosffer yr Haul). Ymddengys fod fflwcs magnetig newydd yn codi drwy arwyneb yr Haul ar ffurf dolenni caeëdig gydag un rhan o’r ddolen yn treiddio i’r ffotosffer, gan ehangu i’r corona. Mae’r broses yn nodweddiadol o ardaloedd bywiog yn y corona. Trwy gydol y broses, caiff y maes magnetig yn y corona ei greu a’i adnewyddu’n gyson. Mae hefyd yn bosibl i’r maes magnetig a phlasma (nwy trydanol egnïol) gael eu cludo allan o’r corona drwy lifo gyda gwynt yr Haul i’r heliosffer (y gofod yng nghynefin yr Haul sy’n cynnwys cysawd yr Haul). Ceir cludiant o’r fath yn ystod digwyddiadau ffrwydrol ar yr Haul. Yn ôl y llenyddiaeth gyfredol, ni cheir cludiant oni cheir digwyddiad ffrwydrol, ac felly pan na cheir ffrwydrad, disgwylir y caiff meysydd magnetig caeëdig ardaloedd bywiog y corona eu hynysu rhag yr heliosffer. Mae’r erthygl hon yn cyflwyno tystiolaeth wahanol i’r llenyddiaeth gyfredol. Mae’r arsylwadau a gyflwynir yn dangos y dystiolaeth gyntaf y gall y maes magnetig caeëdig ehangu’n uniongyrchol o’r corona heb ddigwyddiad ffrwydrol gan ffurfio rhan bwysig o wynt yr Haul. Cesglir y dystiolaeth drwy gymhwyso technegau delweddu newydd i arsylwadau o’r corona. Cyflwynir yr arsylwadau a thrafodir eu goblygiadau i’r darlun cyfredol a geir o’r prosesau sy’n cysylltu’r Haul â’r heliosffer.

Huw Morgan, 'Ehangiad ardaloedd bywiog o’r Haul i’r gofod', Gwerddon, 18, Medi 2014, 10-22.

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Gwerddon, cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedaethol.

Cedwir pob hawl
Gwerddon;gwyddorau ffisegol;seryddiaeth
Dewiswch y Polisi Cyhoeddi
Dewiswch hwn i wneud y cynnwys yn breifat
CadwCanslo
Label
Label

HyperLink HyperLink
Previous
Next
Powered by RES
×

Lwytho lluniau i fyny

Dewiswch ddelwedd neu gasgliad o ddelweddau (gan gynnwys ffeiliau zip a PowerPoint) i'w hychwanegu at Set Ffotograffau. Noder y gall gymryd rhai munudau i brosesu rhai ffeiliau PowerPoint wedi iddynt gael eu llwytho i fyny.

Dewis ffeiliau
Llwytho i fyny

Image Search

Powered by RES
Set results as gallery for this item
Cancel

Send to Signage

1. Pick Template
2. Pick Signage Players

Player List

Zone List

3. Select Schedule Type
×
Select Categori

Cadarnhau'r dewis Canslo
Uploading
Header
OK Cancel
Powered byPlanet eStream ® Copyright ©Planet Enterprises LtdTelerau defnyddio