Yma, ceir clipiau sy'n ymwneud â Chymru.
Rhan o brosiect Cyflwyno Tafodieithoedd y Wladfa.
Mae'r cyflwyniad hwn i'r adnodd yn cynnwys gwybodaeth bellach am yr adnodd ynghyd â detholiad o nodweddion ieithyddol traddodiadol Wladfaol.
Argraffiadau ac atgofion o Gymru gan nifer o siaradwyr o gefndiroedd gwahanol a geir yng nghlipiau P4. Diddorol nodi hefyd i sawl un o’r Gwladfawyr fod yn llythyru â rhai yng Nghymru fel y clywir yn P4(iii). Y mae’n werth tynnu sylw hefyd at P4(v) lle mae un siaradwraig hynod frwdfrydig o Ddyffryn Camwy yn cwyno nad oes digon o ddisgyblion o Gymru yn ymweld â’r Wladfa. Rhyfeddol hefyd yw P4(viii) lle clywir siaradwr yn ei arddegau yn dweud iddo ddysgu Cymraeg cyn Sbaeneg er na fu yng Nghymru erioed.
CYNNWYS
CLIP
DISGRIFIAD
MANYLION Y SIARADWR + CLIPIAU ERAILL OHONO/ OHONI
P4(i)
Argraffiadau ffermwr (gaucho) o Gymru.
1A
P4(ii)
Ymweld â chartref gwreiddiol ei thad yng Nghymru.
1B
P4(iii)
Traddodiad rhai Gwladfawyr o lythyru â phobl yng Nghymru.
1E
P4(iv)
Mynd i Gymru; rhai gwahaniaethau rhwng Cymru a’r Wladfa.
2B
P4(v)
Syniad i annog mwy o ddisgyblion ysgol o Gymru i ddod ar daith i Batagonia i greu cysylltiadau.
3B
P4(vi)
Argraffiadau cyntaf disgyblion ysgol o Gymru.
4A
P4(vii)
Tri disgybl ysgol yn trafod eu hatgofion o Gymru.
P4(viii)
Disgybl ysgol yn dweud iddo ddysgu Cymraeg cyn Sbaeneg, er nad yw wedi bod yng Nghymru erioed.
4B
Gellir lawrlwytho'r nodiadau uchod drwy glicio yma.