Gwraig o’r Gaiman, Dyffryn Camwy, sy’n weithgar iawn yng ngweithgareddau y diwylliant Cymreig yn y Wladfa, yw siaradwraig 1E. Bu’n athrawes Saesneg, ac yna’n brifathrawes ar Goleg Camwy, y Gaiman. Y mae hefyd yn chwarae rhan ym Mhrosiect yr Iaith Gymraeg (a ariennir yn bennaf gan y Cyngor Prydeinig a Llywodraeth Cymru), ac mae’n amlwg hefyd fel cyflwynwraig rhaglen radio yr ‘Hora Galesa’ lle y cyfwelir ymwelwyr o Gymru yn ogystal â chwarae cerddoriaeth draddodiadol Gymreig. Fe’i hadweinir gan rai fel ‘Brenhines y Wladfa’. Blwyddyn geni: 1935.
CYNNWYS
1E1: Y Cymry ym Muenos Aires a dylanwad y gymuned Brydeinig arnynt.
1E2: Michael D. Jones a Lewis Jones (dau hen daid i’r siaradwraig).
1E3: Y rhaglen radio Gymreig.
1E4: Ei ffordd arbennig o gyfieithu ar y pryd; sonnir hefyd am ddiffyg ymwybyddiaeth trigolion Chubut o hanes Cymru.
1E5: Hunaniaeth disgynyddion y Cymry heddiw, ac iaith y diwylliant Cymreig; lleihad y Gymraeg yn y capel; pwysigrwydd yr ysgol Sul yn y gorffennol wrth gynnal y Gymraeg.
1E6: Pwysau ar ddisgynyddion y Cymry i droi’n Babyddion ar un adeg; prinder priodasau yng nghapeli’r Wladfa.
NODWEDDION IEITHYDDOL NEILLTUOL
Sylwch yn 1E1, er enghraifft, ar ddefnydd y siaradwraig hon o’r ymadrodd / atodeiriau (tag) ‘welsoch chi’ (ar ddiwedd cymal neu frawddeg fel rheol); dylanwad y ferf viste sy’n gyffredin yn Sbaeneg yr Ariannin sydd wrth wraidd y ffurfiau ‘welsoch chi’ a ‘welast ti’ (yn hytrach na ‘wyddoch chi’ a ‘wyddost ti, dyweder).
Y mae’n werth tynnu sylw hefyd at y derminoleg a ddefnyddia’r siaradwraig hon ar gyfer trafod arferion llywodraeth talaith Chubut. Yn 1E2, ‘rhaglaw’ yw ei chyfieithiad ar gyfer gobernador (nid ‘llywydd’ neu ‘arlywydd’); yn ddiddorol, y mae hyn yn gyson â’r hyn a geir yng nghyfansoddiad gwreiddiol y Wladfa Gymreig. Yn yr un modd, sylwer mai ‘ynadfa’ a ddefnyddir yn 1E6 ar gyfer y man lle y cofrestrir priodasau. Defnyddiwyd ‘cynulliad’ ganddi hefyd i gyfeirio at fan ymgynnull llywodraeth y dalaith.
Ffurf Wladfaol arall a glywir yw ‘dwedda’ (nid ‘diwetha(f)’ neu ‘dwytha’) yn 1E3.
Gellir lawrlwytho'r nodiadau uchod drwy glicio yma.