Ceir yma glipiau sain wedi eu recordio’n Ionawr 2015 gan Dr Iwan Rees o dafodieithoedd yn Nyffryn Banw yn Sir Drefaldwyn.
Mae’r atodiadau’n cynnwys canllawiau manwl gan Dr Iwan Rees ar gyfer pob clip gan dynnu sylw at elfennau ieithyddol penodol (ar eirfa, seiniau, gramadeg a’r oslef, er enghraifft).
Ffrwyth prosiect Cyflwyno Tafodieithoedd y Gymraeg: Canllawiau i Actorion a Sgriptwyr yw’r casgliad hwn.
Yr amcan yn syml yw helpu actorion a sgriptwyr Cymraeg, nid yn unig i ymgyfarwyddo â gwahanol amrywiadau tafodieithol, ond hefyd i’w defnyddio yn ymarferol wrth eu gwaith bob dydd.
Yr hyn a gyflwynir yma, felly, yw clipiau fideo a sain o dafodieithoedd amrywiol o bob cwr o Gymru. Yn ogystal â chlipiau o amrywiadau Cymraeg o ardaloedd gwahanol, ceir yma hefyd enghreifftiau o siaradwyr o wahanol genedlaethau. Gobeithio felly y bydd rhai o’r clipiau hyn yn addas ar gyfer dramâu hanesyddol a rhai cyfoes fel ei gilydd.
Ceir yma glip sain wedi ei recordio’n Ionawr 2015 gan Dr Iwan Rees o dafodieithoedd yn Nyffryn Banw yn Sir Drefaldwyn.
Ceir hefyd nodiadau (dan 'Cyfryngau Cysylltiedig' uchod) yn cynnwys canllawiau manwl gan Dr Iwan Rees sydd hefyd yn tynnu sylw at elfennau ieithyddol penodol (ar eirfa, seiniau, gramadeg a’r oslef, er enghraifft).
Llyfryn o'r casgliad adnoddau Tafodieithoedd y Gymraeg: Canllawiau i Actorion a Sgriptwyr.
Adnodd i helpu actorion a sgriptwyr Cymraeg i ymgyfarwyddo â gwahanol amrywiadau tafodieithol, ac i'w helpu i'w defnyddio yn ymarferol.