Merch fferm o Gwm Hyfryd (ardal Trevelin) yng Ngodre’r Andes yw siaradwraig 2A. Wedi cyfnod mewn ysgol breswyl ddwyieithog (Saesneg a Sbaeneg) yn Bariloche, fe’i hanfonwyd i astudio am ddwy flynedd (pan oedd rhwng 13 a 15 mlwydd oed) yn ysgol uwchradd Tregaron yng Nghymru. Yn ddiweddarach, astudiodd y Gymraeg yn fanylach, yng Ngholeg Harlech yn gyntaf, ac yna yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe. Wedi iddi orffen ei hastudiaethau, gweithiai fel athrawes Saesneg yn bennaf, ond roedd yn un o’r rhai cyntaf hefyd i gynnal gwersi Cymraeg yng Ngodre’r Andes. Mae’r siaradwraig hon yn chwaer i siaradwyr 2B a 2C. Blwyddyn geni: 1953.
CYNNWYS
2A1: Mynd o Gwm Hyfryd i ysgol breswyl ddwyieithog (Saesneg a Sbaeneg) yn Bariloche.
2A2: Cornchwiglen y Wladfa.
2A3: Barddoni a dylanwad ei phrofiad yn adrodd ar hynny.
2A4: Newidiadau yn y tywydd.
2A5: Symud beddau a chyrff o fynwent wreiddiol y Gaiman.
2A6: Iaith Eisteddfodau’r Wladfa.
NODWEDDION IEITHYDDOL NEILLTUOL
Yn 2A1, sylwch ar y defnydd o’r benthyciad Sbaeneg estancias; cyfeirio at ffermydd mawrion (ranches y Saesneg) y mae’r gair hwn, ac mae’n dra chyffredin iddo ymddangos mewn Cymraeg llafar naturiol yn y Wladfa (yn debyg i’r modd y mae coral a galpon wedi hen ymsefydlu yn yr iaith).
O ran y ‘gornchwiglen’ a glywir yn torri ar draws y siaradwraig yn 2A2, noder nad yr un gornchwiglen ag a geir yng Nghymru yw hon (er ei bod yn perthyn i’r un rhywogaeth).
Diddorol odiaeth yw ei sylwadau ar yr ‘u ogleddol’ yn 2A3; honnir yma mai wrth adrodd yn unig y gorfodwyd iddi ddefnyddio’r llafariad ogleddol hon.
Er gwaethaf ei chyfnodau estynedig yng Nghymru, ceir gan y siaradwraig hon sawl ffurf nodweddiadol Wladfaol, e.e. ‘dwedda’ (yn 2A4), ‘ffroes’ (nid ‘crempog’) a ‘poncins’ (nid ‘pwmpenni’).
Gellir lawrlwytho'r nodiadau uchod drwy glicio yma.