Cyfres o bamffledi ym maes addysg iechyd a meddygaeth yn rhoi cyflwyniad i wahanol agweddau ar y maes a chyngor ar bynciau mwy eang megis cynllunio gyrfa.
Argraffwyd copïau papur o'r pamffledi i'w defnyddio mewn sefydliadau Addysg Uwch ac mewn ysgolion a diwrnodau agored.
Cefnogwyd y prosiect drwy Grant Bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a chan Brifysgol Caerdydd (gan gynnwys cymorth dylunio Hannah Simpson a gwaith golygu iaith Dr Iwan Rees, Ysgol y Gymraeg). Bu Bwrdd Golygyddol cenedlaethol, gyda chynrychiolaeth o Brifysgolion Caerdydd, Bangor ac Abertawe, yn goruchwylio’r prosiect. Un o amcanion y gyfres yw rhoi cyfle i bobl sydd â diddordeb yn y maes i gyhoeddi eu gwaith, felly gobeithir ehangu'r gyfres i feysydd eraill yn y dyfodol.
Nod y pamffled hwn yw gan Supachai Chuenjitwongsa yw egluro sut mae myfyrwyr lleol yn dysgu a sut mae addysgwyr yn eu helpu i ddysgu.
Mae'n rhan o 'Dysgu Am', sef cyfres o bamffledi ym maes addysg iechyd a meddygaeth yn rhoi cyflwyniad i wahanol agweddau ar y maes a chyngor ar bynciau mwy eang megis cynllunio gyrfa.
Nod y pamffled hwn gan Menai Evans a Sara Whittam yw cynorthwyo myfyrwyr a staff i gynllunio gyrfa yn y maes iechyd.
Nod y pamffled hwn gan Heledd Iago yw egluro beth yw iechyd gwledig a chyflwyno rhai o'r heriau sydd ynghlwm â'r gweithle gwledig.
Nod y pamffled hwn gan Zoe Morris-Williams yw rhoi cyflwyniad i fentora yn y gweithle. Beth yw mentora a pha fodelau mentora sydd ar gael?
Nod y pamffled hwn gan Steven Edwards yw cyflwyno rhai o'r prif egwyddorion moesegol mewn gofal iechyd i fyfyrwyr a staff.
Nod y pamffled hwn gan Amanda Jones yw egluro i fyfyrwyr a staff pam fod gallu darparu gofal yn y Gymraeg yn bwysig.
Nod y pamffled hwn gan Anna Loh yw egluro i fyfyrwyr a staff beth yn union yw Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sut mae ei hennill a pham y dylai myfyrwyr ymgymryd â’r cymhwyster gwerthfawr hwn.