Dewch i adolygu cywydd Gerallt Lloyd Owen, 'Y Gŵr sydd ar y Gorwel' sydd ar fanyleb Cymraeg Blwyddyn 12 yng nghwmni'r Athro Tudur Hallam, Prifysgol Abertawe.
Pwy oedd Saunders Lewis, ‘Y gŵr sydd ar y gorwel’? Beth oedd yn arbennig amdano? Pwy yw ef i ni heddiw? A yw o hyd, a Chymru bellach yn meddu ar ei Senedd ei hun, ar y gorwel pell? A pham yr ystyrir y cywydd mawl iddo gan Gerallt Lloyd Owen yn un o gerddi mawr y Gymraeg? Dyna’r cwestiynau trafod.