Yn ogystal ag achub twristiaid ac ymwelwyr yn y môr bydd criw’r bad achub hefyd yn achub pobl leol. Gan mai Cymraeg yw iaith gyntaf nifer o’r bobl leol, byddai siarad unrhyw beth oni bai am y Gymraeg â’r bobl hynny yn brofiad dieithr iddynt. Mae siarad Cymraeg yn aml yn helpu i dawelu nerfau pobl.