Cyflwyniad Non Williams, Prifysgol Bangor, yng Nghynhadledd Wyddonol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol 2019.
Cyflwyniad yn trafod gwaith ymchwil doethuriaeth Non Williams ar effaith cadw gwartheg ar yr ucheldir.
Trafodir canfyddiadau ei harbrofion cyntaf a ymchwiliodd i’r canlynol:
• effaith gwella porfa’r ucheldir drwy ailhadu,
• effaith chwalu calch a gwrtaith ar gynhyrchiant porfa
• effaith gwella porfa ar yr amgylchedd a amcangyfrifwyd trwy fesur allyriadau nitrig ocsid (NO)
• effaith economegol gwella'r borfa
Yna trafodir effaith gwella porfa ar berfformiad gwartheg, ynghyd â’r effeithiau amgylcheddol ac economaidd cysylltiedig ar systemau gwartheg yn yr ucheldir.