Mae Dyddgu Hywel yn ddarlithydd Addysg i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Gyda’i gyrfa wedi dechrau fel darlithydd Dylunio & Thechnoleg a Pheirianneg mewn Addysg Bellach, mae ei diddordeb ac arbenigedd mewn dulliau addysgu digidol yn y dosbarth.
Mae’r gweithdy hwn yn cynnwys gwybodaeth a hyfforddiant syml cam-wrth-gam i ddefnyddio’r meddalwedd cyflwyno Prezi.
Beth yw Prezi?
Prezi yw meddalwedd cyflwyno sydd yn ymgysylltu gyda myfyrwyr yn y dosbarth. Mae’n ddull arloesol o gyflwyno gwahanol bynciau trwy ddefnyddio symudiad a gofod i ddod â’ch syniadau yn fyw, a’ch gwneud yn gyflwynydd unigryw.
Cynnwys y sesiwn
- Beth yw Prezi?
- Rhagflas Prezi
- Hyfforddiant Prezi
- Manteision Prezi
Cliciwch yma i wylio'r cyflwyniad ar Panopto.
Mae’r gweithdy hwn wedi ei baratoi fel rhan o Raglen Sgiliau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn cefnogi myfyrwyr ymchwil cyfrwng Cymraeg.