Mae Dyddgu Hywel yn ddarlithydd Addysg i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Gyda’i gyrfa wedi dechrau fel darlithydd Dylunio & Thechnoleg a Pheirianneg mewn Addysg Bellach, mae ei diddordeb ac arbenigedd mewn dulliau addysgu digidol yn y dosbarth.
Mae’r gweithdy hwn yn cynnwys gwybodaeth a hyfforddiant syml cam-wrth-gam i ddefnyddio’r ap Socrative gyda’ch myfyrwyr yn y dosbarth, mewn darlith neu seminar.
Beth yw Socrative?
Yr ap angenrheidiol mewn dosbarth ar gyfer hwyl, ymgysylltiad effeithiol ac asesu ar gyfer dysgu.
Cynnwys y sesiwn
- Beth yw Socrative?
- Rhagflas Socrative
- Hyfforddiant Socrative
- Manteision Socrative
Cliciwch yma i wylio'r cyflwyniad ar Panopto.
Mae’r gweithdy hwn wedi ei baratoi fel rhan o Raglen Sgiliau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol er mwyn cefnogi myfyrwyr ymchwil cyfrwng Cymraeg.