Dyma gyflwyniad i Cyflwyno Tafodieithoedd y Wladfa, adnodd newydd gan Dr Iwan Wyn Rees.
Yr amcan yn syml yw cyflwyno am y tro cyntaf amrywiadau tafodieithol cyfoes y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia – neu Dalaith Chubut fel y gelwir bellach y rhanbarth eang hwnnw o’r Ariannin sy’n ymestyn o Ddyffryn Camwy ger môr yr Iwerydd tuag at y ffin â Chile wrth odre mynyddoedd yr Andes. Cewch gyfle yma i wrando ar Gymraeg llafar gwahanol fathau o siaradwyr o’r Wladfa, ac i gyd-fynd â’r clipiau hynny, ceir nodiadau manwl yn tynnu sylw at amrywiaeth o nodweddion tafodieithol.
Beth yw pwrpas yr adnodd hwn?
Yn gyntaf, mae’n werth pwysleisio mai adnodd addysgol yw hwn yn bennaf. Prif ddiben yr adnodd yw codi ymwybyddiaeth addysgwyr (athrawon o’r Wladfa ac o Gymru) o ffurfiau Gwladfaol cynhenid sydd i’w clywed o hyd gan rai carfanau o siaradwyr Cymraeg yn y Wladfa. Os ydych chi, felly, yn dysgu Cymraeg i blant neu oedolion yn Nhalaith Chubut, ac yn ansicr ai ‘llaeth’ ynteu ‘llefrith’, ‘ffwrn’ ynteu ‘popty’, ‘allan’ ynteu ‘mâs’ sydd orau i’w cyflwyno yn y dosbarth, dylai’r adnodd hwn allu eich helpu. (Rhag ofn eich bod yn pendroni, y rhai cyntaf, sef ‘llaeth’, ‘ffwrn’ ac ‘allan’ sy’n draddodiadol yng Nghymraeg y Wladfa.)
Cliciwch yma i fynd i brif dudalen yr adnodd er mwyn dechrau gwrando ar y clipiau.