Cydnabyddir Max Weber yn un o bennaf sylfaenwyr cymdeithaseg fodern. Mae'r gyfrol hon yn ei leoli yn nhraddodiad cymdeithaseg ac yn amlinellu rhai o'i brif gyfraniadau: ei syniad am 'verstehen' neu 'ddychymyg cymdeithasegol', ei ran yn y drafodaeth fawr ynghylch perthynas cyfalafiaeth â'r grefydd Brotestannaidd, a'i 'deipiau ideal' neu ddiffiniadau o hanfodion cyfundrefnau arbennig.
Gellir lawrlwytho'r e-lyfr ar ffurf PDF, ePub neu Mobi (gweler Cyfryngau Cysylltiedig uchod). Ceir hefyd ffeil PDF o'r argraffiad gwreiddiol.
- I ddarllen yr e-lyfr ar sgrin cyfrifiadur a/neu i argraffu rhannau ohono, lawrlwythwch y ffeil PDF.
- I ddarllen yr e-lyfr ar iBooks, Nook, Kobi a'r rhan fwyaf o ddyfeisiau e-ddarllen eraill, lawrlwythwch y ffeil ePub.
- I ddarllen yr e-lyfr ar Kindle, lawrlwythwch y ffeil Mobi.
Ceir cyfarwyddiadau ar gyfer darllen e-lyfr ar amrywiol declynnau yma.
Mae'r e-lyfr hwn yn ffrwyth prosiect DEChE – Digido, E-gyhoeddi a Chorpws Electronig. Nod y prosiect yw creu e-lyfrau newydd o destunau Cymraeg sy'n allweddol ar gyfer ysgolheictod cyfrwng Cymraeg ond sydd allan o brint. Gallwch weld yr holl e-lyfrau yn y categori DEChE (Prosiect Digido).